Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Wel, bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod canran y trydan a gynhyrchir gan ynni’r gwynt neu ynni solar yn fach iawn: rhwng 3 y cant a 5 y cant fel rheol. Felly, mae’r syniad y gellir cael diogelwch ynni trwy fwy a mwy o felinau gwynt yn ffwlbri a byddai'n arwain at halogi ein cefn gwlad yn llwyr hefyd. Ond mae gennyf ddiddordeb yn yr effaith a gaiff trethi gwyrdd ar bobl dlawd. Daeth ei blaid ef i fodolaeth er mwyn ymladd dros fuddiannau pobl sy'n gweithio, ond ei blaid ef, mwy na neb oherwydd y Ddeddf newid yn yr hinsawdd, a gyflwynwyd gan ei Lywodraeth ef yn 2008—. Yn asesiad ei Lywodraeth ei hun o'i chostau, byddai'n £18 biliwn y flwyddyn, £720 biliwn dros 40 mlynedd. Mae hon yn goron o ddrain sy'n cael ei gosod ar bennau pobl gyffredin.