Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Wel, yn fy marn i, mae hynny’n digwydd nawr, ond wrth ddweud hynny, nid oes un system lle nad yw’r system yn gallu cael ei wella. Y ffordd o wneud hynny yw’r ffordd yr ydym yn ei defnyddio, sef gweithio gyda’r cyrff sy’n cynrychioli’r rheini sydd wedi bod yn y lluoedd arfog er mwyn i ni gryfhau pecynnau iddyn nhw. Mae yna berthynas dda rhwng y cyrff hynny a’r Llywodraeth.