<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:52, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Y cwestiwn yw faint yr ydym ni’n ei wneud, wrth gwrs, ac mae wythnos y coffa yn amser da i atgoffa ein hunain bod gennym ddyletswydd gofal i gyn-bersonél y lluoedd arfog, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, wrth gwrs, y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi am hynny. Ond dim ond £585,000 yw’r gyllideb ar gyfer gwasanaeth iechyd a lles cyn-filwyr Cymru gyfan. Mae hynny’n llai na chanfed ran o 1 y cant o'r gyllideb iechyd gyfan.

Nawr, mae Plaid Cymru yn credu bod angen Deddf lles milwrol i sicrhau bod y cymorth hwnnw i gyn-filwyr yn gyson ac o ansawdd uchel ar draws y wlad, fel bod yr holl gyn-filwyr yn gwybod y bydd gan wasanaethau cyhoeddus ymrwymiad cyfreithiol i fod yno i’w cyn-gymrodyr. Felly, os, fel y byddai'r mwyafrif yn cytuno, nad yw’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyn-filwyr yn ddigon ar hyn o bryd, a wnaiff y Prif Weinidog addo deddfu yn ystod y Cynulliad hwn i sicrhau, pan ddaw i dai neu ofal meddygol, nad oes unrhyw gyn-filwr yn cael ei adael ar ôl?