<p>Bil Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:03, 8 Tachwedd 2016

A oeddech chi rywfaint callach, Brif Weinidog, ar ôl y trafodaethau? Oherwydd rwyf i a’r Arglwyddes sydd yn eistedd yr ochr arall wedi bod yn bresennol mewn tri eisteddiad yn barod o Fil Cymru, wedi derbyn rhyw gymaint o ymateb positif oddi wrth y Gweinidog, yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, ond mae’n amlwg i mi nad yw Swyddfa Cymru yn ddim byd ond atodiad i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn y modd mwyaf anneallus, unwaith eto yn ceisio ysgrifennu cyfansoddiad Cymru. Pryd y daw’r dydd y cawn ni ysgrifennu ein cyfansoddiad fan hyn yn ein gwlad ein hunain?