<p>Bil Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 8 Tachwedd 2016

Rwy’n cydymdeimlo â beth sydd gan yr Aelod i’w ddweud, wrth gwrs. Mae’n anffodus na fydd y Bil hwn yn Fil cynhwysfawr i setlo cyfansoddiad Cymru am ddegawdau; nid felly fydd y Bil. Mae yna rai pethau positif yn y Bil, ac rŷm ni’n moyn gweld mwy o bethau positif ar ben hynny. Rwyf wedi trafod hyn â’r Arglwydd Bourne hefyd yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac fel cyn-Aelod o’r lle hyn mae yna ddealltwriaeth ddofn gydag e o’r materion sydd yn hollbwysig. I fi, beth sy’n bwysig yw bod gyda ni Fil sydd yn ein symud ni ymlaen—nid yw’n ein symud ni ymlaen yn ddigon pell, o ystyried barn y rhan fwyaf o’r Aelodau yn y lle hyn, ond mae yna waith i’w wneud er mwyn sicrhau bod y Bil yn rhywbeth y gallwn ni ei ystyried a’i gefnogi yn y pen draw. Rŷm ni’n edrych ymlaen at weld beth yw ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â rhai o’r materion sydd heb gael eu datrys eto.