1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Tachwedd 2016.
7. Pryd y cyfarfu'r Prif Weinidog ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i drafod Bil Cymru? OAQ(5)0240(FM)[W]
Rwyf wedi trafod Bil Cymru â’r Ysgrifennydd Gwladol ar sawl achlysur—y tro diwethaf dros y ffôn ddydd Gwener diwethaf. Mae’n bwysig dros ben bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymateb yn gadarnhaol ac yn bositif i’r adroddiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi yn ddiweddar.
A oeddech chi rywfaint callach, Brif Weinidog, ar ôl y trafodaethau? Oherwydd rwyf i a’r Arglwyddes sydd yn eistedd yr ochr arall wedi bod yn bresennol mewn tri eisteddiad yn barod o Fil Cymru, wedi derbyn rhyw gymaint o ymateb positif oddi wrth y Gweinidog, yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, ond mae’n amlwg i mi nad yw Swyddfa Cymru yn ddim byd ond atodiad i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn y modd mwyaf anneallus, unwaith eto yn ceisio ysgrifennu cyfansoddiad Cymru. Pryd y daw’r dydd y cawn ni ysgrifennu ein cyfansoddiad fan hyn yn ein gwlad ein hunain?
Rwy’n cydymdeimlo â beth sydd gan yr Aelod i’w ddweud, wrth gwrs. Mae’n anffodus na fydd y Bil hwn yn Fil cynhwysfawr i setlo cyfansoddiad Cymru am ddegawdau; nid felly fydd y Bil. Mae yna rai pethau positif yn y Bil, ac rŷm ni’n moyn gweld mwy o bethau positif ar ben hynny. Rwyf wedi trafod hyn â’r Arglwydd Bourne hefyd yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac fel cyn-Aelod o’r lle hyn mae yna ddealltwriaeth ddofn gydag e o’r materion sydd yn hollbwysig. I fi, beth sy’n bwysig yw bod gyda ni Fil sydd yn ein symud ni ymlaen—nid yw’n ein symud ni ymlaen yn ddigon pell, o ystyried barn y rhan fwyaf o’r Aelodau yn y lle hyn, ond mae yna waith i’w wneud er mwyn sicrhau bod y Bil yn rhywbeth y gallwn ni ei ystyried a’i gefnogi yn y pen draw. Rŷm ni’n edrych ymlaen at weld beth yw ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â rhai o’r materion sydd heb gael eu datrys eto.
Brif Weinidog, fel y dywedwch, gwnaed rhywfaint o gynnydd, ac ar wahân i rai o'r materion cyfansoddiadol y cyfeiriodd Dafydd Elis-Thomas atynt, bydd y Bil hwn yn rhoi pŵer i'r Cynulliad dros bethau fel yr enw a threfniadau etholiadol. Felly, mae cynnydd wedi ei wneud yn y fan honno.
A gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, mae datganoli treth yn rhan o Fil Cymru, ac yn rhedeg ochr yn ochr ag ef yn wir—pa gynnydd sy’n cael ei wneud o ran datblygiad y fframwaith cyllidol, sydd mor bwysig i sicrhau bod Cymru'n derbyn ei chyfran deg o arian pan fydd y grant bloc yn lleihau i wneud lle ar gyfer refeniw treth Cymru?
Mae cynnydd da yn cael ei wneud mewn trafodaethau rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Rydym ni’n obeithiol y bydd setliad a fydd yn dderbyniol i bawb ac sy’n dda i Gymru. Ceir meysydd eraill, wrth gwrs, nad ydynt wedi eu datrys eto, ac rydym ni’n gobeithio gweld ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth y DU yn y meysydd hynny.
Nathan—Steffan Lewis. Ymddiheuraf. Steffan Lewis.
Diolch, Lywydd, rwy’n meddwl. [Chwerthin.] Mae'r trefniadau cyfansoddiadol presennol yn codi amheuon ynghylch gallu'r Cynulliad i amddiffyn ei feysydd cymhwysedd yng nghyd-destun Brexit, ond pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ymgorfforiad presennol Bil Cymru o ran gallu'r Cynulliad i amddiffyn ei feysydd cymhwysedd? Ac a wnaiff y Prif Weinidog, yng ngoleuni ymgorfforiad presennol Bil Cymru, roi ystyriaeth ddifrifol i gyflwyno Bil parhad mawr yn y Cynulliad hwn i gadarnhau cymhwysedd y Cynulliad ar faterion a allai gael eu trosglwyddo o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru a'r Deyrnas Unedig?
Dau bwynt: yn gyntaf oll, ni fydd Bil Cymru ei hun yn ateb cynhwysfawr i gyfansoddiad Cymru. Bydd gennym anomaleddau o hyd pan fydd y Cynulliad hwn yn gwneud y gyfraith o ran y rhan fwyaf o drefn gyhoeddus, ond ni fydd yr asiantaethau sy'n gorfodi cyfraith trefn gyhoeddus yn atebol i'r Cynulliad na'r Llywodraeth. Byddai'n bosibl, o dan y trefniadau presennol, i rywun gael ei arestio yn y ddinas hon am drosedd nad yw'n drosedd yng Nghymru ond sydd yn Lloegr. Byddai'n bosibl i rywun fwrw tymor mewn carchar yn Lloegr am drosedd sydd yn drosedd yng Nghymru ond nid yn Lloegr. Mae'r rhain yn anomaleddau sy’n codi gyda'r setliad. Felly, mae llawer i'w wneud o ran gwneud hynny’n fwy cydlynol, er na fydd mor gydlynol ag y byddwn i wedi gobeithio.
Mae'r Bil y mae’n sôn amdano—a dweud y gwir, mae'n rhaid i ni weld beth sydd yn y Bil diddymu mawr fel y'i gelwir. Os mai’r cwbl y mae’n ei wneud—dyma'r ffordd y mae'n cael ei gyflwyno—os mai’r cwbl y mae’n ei wneud yw ymgorffori cyfraith bresennol yr UE yn holl awdurdodaethau a gwledydd y DU, yna gallaf ddeall y synnwyr yn hynny, a byddwn yn edrych ar y sefyllfa o'r newydd i weld a oes unrhyw angen i fwrw ymlaen ar y llwybr a awgrymodd ef ar ôl i fanylion y Bil hwnnw ddod yn eglur. Ond yr egwyddor, wrth gwrs, fydd na ddylai unrhyw bŵer gael ei golli i bobl Cymru a bod unrhyw bwerau sy'n trosglwyddo o Frwsel mewn meysydd sydd wedi'u datganoli yn dod yn syth yma—maen nhw’n pasio 'go', ond ddim yn casglu arian ar y ffordd yn anffodus.
Cwestiwn 8, Nathan Gill.