Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Mae cynnydd da yn cael ei wneud mewn trafodaethau rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Rydym ni’n obeithiol y bydd setliad a fydd yn dderbyniol i bawb ac sy’n dda i Gymru. Ceir meysydd eraill, wrth gwrs, nad ydynt wedi eu datrys eto, ac rydym ni’n gobeithio gweld ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth y DU yn y meysydd hynny.