Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, fel y dywedwch, gwnaed rhywfaint o gynnydd, ac ar wahân i rai o'r materion cyfansoddiadol y cyfeiriodd Dafydd Elis-Thomas atynt, bydd y Bil hwn yn rhoi pŵer i'r Cynulliad dros bethau fel yr enw a threfniadau etholiadol. Felly, mae cynnydd wedi ei wneud yn y fan honno.
A gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, mae datganoli treth yn rhan o Fil Cymru, ac yn rhedeg ochr yn ochr ag ef yn wir—pa gynnydd sy’n cael ei wneud o ran datblygiad y fframwaith cyllidol, sydd mor bwysig i sicrhau bod Cymru'n derbyn ei chyfran deg o arian pan fydd y grant bloc yn lleihau i wneud lle ar gyfer refeniw treth Cymru?