<p>Y Cap Budd-daliadau (Torfaen)</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:12, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn anffodus, bydd estyniad ddoe i’r cap budd-daliadau yn sicrhau, rwy’n credu, bod mwy o blant yn cael eu gwthio i dlodi trwy ddiwygiadau lles y Torïaid. Mae'r ffigurau a roddwyd gennych yn hollol gywir—mae £58 yr wythnos yn swm sylweddol o arian ac mae tua 516 o blant sydd ar aelwydydd sy'n cael eu heffeithio. Mae gan nifer o’r teuluoedd hynny ôl-ddyledion rhent eisoes ac, wrth gwrs, yr ofn nawr yw y bydd yn rhaid iddyn nhw ddewis rhwng prynu bwyd i’w teuluoedd a thalu eu rhent.

Bu dull partneriaeth cryf iawn yn Nhorfaen o dan arweiniad y cyngor i liniaru effaith diwygio lles, a gwnaed llawer o'r gwaith hwnnw o dan nawdd Cymunedau yn Gyntaf. O ystyried ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar Gymunedau yn Gyntaf, pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd y gwaith hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru beth bynnag a ddaw o’r ymgynghoriad hwnnw?