Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Yn amlwg, rydym ni eisiau cadw'r arferion gorau a sefydlwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, wedi dweud ei fod o blaid dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben, ond hefyd, wrth gwrs, o blaid datblygu dull newydd o adeiladu cymunedau cydnerth, a dyna pam mae'r broses ymgysylltu mor bwysig i ni, i glywed enghreifftiau y mae’r Aelod wedi cyfeirio atynt, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr arferion gorau hynny yn parhau yn y dyfodol gyda'r trefniadau newydd.