Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog, ac am fod mor garedig â darparu briff i lefarwyr y gwrthbleidiau cyn cyflwyno'r Bil. Mae gan Gymru un o'r gwasanaethau iechyd gorau yn y byd, ond mae gennym hefyd ran o’r iechyd gwaelaf yn Ewrop, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn i ymdrin â hyn. Mae UKIP yn croesawu cyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phob plaid yn y Siambr i graffu a gwella'r Bil.
Croesawaf gyflwyno cofrestr genedlaethol o gynhyrchion tybaco a nicotin, a’r bwriad i gynnal cyfyngiadau ar werthu cynhyrchion o'r fath i blant a phobl ifanc. Rydym yn gobeithio y bydd y gofrestr hefyd yn helpu i reoleiddio'r farchnad e-sigarét. Ar hyn o bryd, nid oes dim i rwystro unrhyw un rhag coginio sypiau o hylif e-sigarét mewn baddon a’u gwerthu mewn marchnad leol, arwerthiant cist car neu o droli ar y stryd fawr. Er fy mod i’n credu bod e-sigaréts yn ddewis llawer mwy diogel na chynhyrchion tybaco traddodiadol a bod y mwyafrif helaeth o fanwerthwyr yn gyfrifol, nid oes gan ddefnyddwyr unrhyw sicrwydd bod y cynnyrch maen nhw’n ei brynu yn ddiogel. Nid ydyn nhw’n gwybod beth y mae’r hylif maen nhw’n ei brynu yn ei gynnwys nac amodau ei wneud. Weinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i ddefnyddio Bil iechyd y cyhoedd i reoleiddio cynhyrchu hylifau e-sigarét?
Wrth eu prynu o ffynhonnell ag enw da, mae e-sigaréts yn fwy diogel o lawer nag ysmygu sigaréts traddodiadol, ac, er y byddai’n well i ysmygwyr roi'r gorau iddi yn gyfan gwbl, y gwirionedd yw na fydd llawer yn gwneud hyn, hyd yn oed ar ôl bod ar gynlluniau rhoi’r gorau i smygu safon aur Llywodraeth Cymru. Felly, mae'n llawer gwell i’r ysmygwyr hynny newid i’r e-sigaréts llawer mwy diogel. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn argymell y defnydd o e-sigaréts fel dewis arall i ysmygu ac yn cyflwyno canllawiau i gyflogwyr yn dweud ei bod yn bosibl y bydd yn ystyried caniatáu i weithwyr ddefnyddio e-sigaréts yn y gwaith os yw'n rhan o bolisi i helpu ysmygwyr tybaco i roi'r gorau i'r arfer. Gan fod 19 y cant o boblogaeth oedolion Cymru yn ysmygu ar hyn o bryd, dylem ystyried pob dull posibl i leihau'r nifer. Weinidog, mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr a Choleg Brenhinol y Meddygon yn nodi bod e-sigaréts 95 y cant yn fwy diogel nag ysmygu tybaco. Felly, pa ystyriaeth a roddwyd i ddefnyddio'r Bil hwn i wrthdroi rhai o'r gwaharddiadau yr ydym wedi eu gweld yn cael eu cyflwyno ar e-sigaréts?
O ran agweddau eraill ar y Bil, rydym yn croesawu camau i reoleiddio gweithdrefnau arbennig a thyllu rhannau personol o’r corff. Rydym yn croesawu cynnwys asesiadau o effaith ar iechyd yn fawr. Edrychaf ymlaen at gael rhagor o fanylion am yr effaith y bydd asesiadau o anghenion fferyllol yn ei chael mewn ardaloedd gwledig yn ystod cyfnod craffu Cyfnod 1 yn y pwyllgor.
Yn olaf, Weinidog, rydym yn cwestiynu cyflwyno strategaethau toiledau lleol. Heb fynediad digonol i doiledau cyhoeddus, mae llawer o bobl anabl, pobl hŷn a phobl â chyflyrau iechyd yn methu â gadael eu cartref. Mae Cymdeithas Toiledau Prydain yn amcangyfrif bod 40 y cant yn llai o doiledau cyhoeddus yn y DU nag oedd ar gael 10 mlynedd yn ôl. Dylem ni osod dyletswydd ar awdurdodau lleol naill ai i ddarparu toiledau cyhoeddus neu sicrhau mynediad cyhoeddus digonol i doiledau, ac nid dim ond llunio strategaeth. Weinidog, a wnewch chi ystyried cryfhau’r rhan hon o'r Bil? Diolch i chi unwaith eto, Weinidog, am eich datganiad, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau ein bod yn darparu Bil sy'n cyflwyno manteision iechyd cyhoeddus gwirioneddol i Gymru. Diolch yn fawr.