Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch i chi am y cwestiynau yna, ac ni wnes i roi sylw i bwynt Angela ar y mater ysgolion bro, felly ymddiheuriadau am hynny. Mae'n un o'n hymrwymiadau maniffesto i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio'r adnoddau sydd gennym mewn cymunedau, yn enwedig o ran ysgolion a'r buddsoddiad cyfalaf yr ydym yn ei wneud mewn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gan sicrhau bod y cyfleusterau hynny ar gael er budd y gymuned ehangach. Unwaith eto, roeddech yn sôn am y mater o lygredd ac ansawdd aer, nad yw yn y Bil, ond rwy'n siŵr y byddwn yn cael trafodaeth fanylach ar y mater hwnnw wrth i'r Bil symud ymlaen drwy'r gwahanol gyfnodau.
Roeddech chi yn llygad eich lle i dynnu sylw at y cynnydd sylweddol yr ydym wedi ei weld ar y mater o ysmygu: 19 y cant o bobl yng Nghymru sy’n ysmygu erbyn hyn, ac mae gennym darged uchelgeisiol i gyrraedd 16 y cant erbyn 2020. Rwy'n gobeithio y bydd rhai o'r mesurau yn y Bil hwn yn sicr yn ein helpu i fynd i'r afael â hynny. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod, mewn gwirionedd, bod plant a phobl ifanc yn aml yn cael enw drwg, ond o ran ysmygu ac yfed alcohol, mewn gwirionedd, mae lefelau ar eu hisaf ers i gofnodion ddechrau ymhlith ein pobl ifanc. Felly, rwyf yn credu y dylem ni a hwythau fod yn falch iawn o hynny hefyd. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru i ymestyn y rhestr o safleoedd lle na cheir ysmygu. Dim ond drwy weithdrefn gadarnhaol ar lawr y Cynulliad gydag ymgynghoriad y gellir gwneud hynny. Felly, gallai fod cyfle yn y cyfnodau yn y dyfodol i Weinidogion ehangu’r rhestr, efallai, i gynnwys bwytai neu fannau caffeteria awyr agored, er enghraifft, y cyfeiriasoch atynt, er unwaith eto, gallai hynny fod yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod wrth i'r Bil wneud ei ffordd trwy'r cyfnodau.
Cyfeiriasoch at y mater o isafbris uned. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgynghori ar y mater hwn ac wedi cael ymateb ffafriol o ran ei fod yn rhywbeth a allai gael effaith o ran mynd i'r afael â’r defnydd niweidiol o alcohol yng Nghymru. Rydym yn croesawu'r cadarnhad bod Llys y Sesiwn yn yr Alban wedi rhoi ei gymeradwyaeth i gynllun Llywodraeth yr Alban i gyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol. Dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, ar 21 Hydref, y daeth y penderfyniad hwnnw, felly rydym yn dal i ystyried beth mae hynny'n ei olygu i Gymru. Ond rydym yn cydnabod hefyd, nad hyn efallai fydd diwedd y stori, wrth gwrs. Gallai’n rhwydd fynd i’r Goruchaf Lys yn y pen draw. Felly, rydym yn cadw llygad agos iawn ar hynny ac mae gennym gryn ddiddordeb ynddo, gan ystyried y ffordd ymlaen a'r hyn a allai fod yn bosibl yng Nghymru. Rydym yn sicr o'r farn y byddai cyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol yn un o'r camau allweddol y gallem eu cymryd i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Rydym yn awyddus iawn i gael deddfwriaeth debyg yma yng Nghymru, ac rydym yn ei ystyried yn rhan hanfodol o'r camau gweithredu ehangach y mae angen i ni eu cymryd yng nghyd-destun ein cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau, y cyfeiriais ato'n gynharach. Ond, fel y dywedais, rydym yn gwylio'r sefyllfa yn yr Alban ac yn ystyried beth y gallem ei wneud.