Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Fel y mae eraill wedi ei ddweud yn gynharach, Weinidog, rwyf yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael poblogaeth fwy egnïol yn gorfforol yng Nghymru. Rwyf yn credu bod ysgolion bro, fel y crybwyllodd Angela Burns, yn ffordd bwysig iawn ymlaen. Rwyf hefyd yn credu nad yw llygredd aer wedi cael digon o sylw. Cyfarfûm â grŵp yn ddiweddar, er enghraifft, a ddywedodd wrthyf y byddai costau trosi cyfalaf ar gyfer eu tanwydd penodol hwy ar gyfer fflydoedd tacsi, er enghraifft, yn ad-dalu eu hunain dros gyfnod o ddwy flynedd ac yn cael effaith sylweddol ar ansawdd aer gwell yn ardaloedd mewnol ein trefi. Rwyf yn sicr bod llawer o enghreifftiau eraill o sut y gallwn gael ansawdd aer llawer gwell yng Nghymru lle y gallem wneud cynnydd ymarferol yn eithaf cyflym.
Ond yr hyn yr wyf yn awyddus iawn i ofyn amdano yw dau beth, mewn gwirionedd. Ysmygu yw un. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwneud ysmygu yn llai derbyniol yn gymdeithasol. Mae cyfraddau ysmygu wedi gostwng, ac mae hynny wedi bod o fudd mawr i iechyd yng Nghymru. Rydych yn caniatáu yn eich datganiad am y posibilrwydd o ddatblygu mangreoedd cyfyngu eraill. Un y gwn fod cryn dipyn o gefnogaeth boblogaidd iddo yn fy mhrofiad i, yw cyfyngu ar ysmygu fel nad yw'n bosibl mewn mannau awyr agored bwytai a chaffis lle y ceir seddi a byrddau. Rwy'n credu bod pobl yn meddwl bod hynny'n arbennig o bwysig yn yr haf, pan fo rhai pobl yn ei weld yn ddewis rhwng naill ai peidio â mwynhau'r tywydd braf neu anadlu mwg ail-law, sydd yn codi problem arbennig i rai pobl, o ystyried eu cyflyrau iechyd. Ac o ran isafswm pris alcohol, Weinidog: Tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth ynglŷn â’ch syniadau ar sut y gellir bwrw ymlaen â hynny yng Nghymru, unwaith eto o ystyried effaith camddefnyddio alcohol ac yfed gormod o alcohol ar iechyd yng Nghymru.