Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch i chi am godi'r mater penodol hynny, ac rwy'n gwybod bod arolwg gan Help the Aged, fel yr oedden nhw pan gynhaliwyd yr arolwg—Age UK erbyn hyn—wedi canfod bod mwy na hanner y bobl hŷn yn teimlo bod diffyg toiledau cyhoeddus yn eu hatal rhag mynd allan mor aml ag y bydden nhw’n dymuno, ac mae hynny’n adlewyrchu i raddau helaeth y math o stori a ddywedasoch chi wrthym gynnau am un o'ch etholwyr chithau hefyd. Rwyf wedi cwrdd â Crohn’s and Colitis UK ac maen nhw wedi dweud rhywbeth tebyg iawn, bod ofn mynd allan heb wybod a fydden nhw’n gallu mynd i'r toiled yn llesteirio lles pobl o ran gallu cael gafael ar bopeth y gall y gymuned ei gynnig iddynt. Rwyf yn gobeithio y bydd y Bil hwn yn golygu y bydd ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fod â strategaeth toiledau leol ar waith yn golygu gwell cynllunio ar lefel leol, er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau yn diwallu anghenion cymunedau. Bydd toiledau hygyrch, glân sydd wedi eu lleoli yn dda mewn mannau fel parciau, promenadau, llwybrau beicio, a llwybrau cerdded yn helpu i annog pobl i deithio yn fwy egnïol, a defnyddio llwybrau mwy egnïol hefyd, ac rwy'n credu bod hyn i gyd yn rhan o’r darlun iechyd cyhoeddus ehangach.
Wrth ddatblygu eu strategaethau, ceir y nod y bydd awdurdodau lleol yn ystyried yr ystod eang o gyfleusterau sydd ar gael, yn y sector cyhoeddus-llyfrgelloedd cyhoeddus, neuaddau cymuned a thref, canolfannau chwaraeon, theatrau ac amgueddfeydd felly, na fyddai pobl efallai yn teimlo mor bryderus o fynd i mewn iddyn nhw-ond hefyd adeiladau y sector preifat-y busnesau preifat hynny sydd wedi eu cynnwys ar hyn o bryd o dan y cynllun grant cyfleusterau cyhoeddus, er enghraifft-wrth ddatblygu eu strategaeth. Oherwydd, er yr ystyrir toiledau cyhoeddus yn aml o fewn cyd-destun y toiledau cyhoeddus ar wahân hynny a gynhelir gan awdurdodau lleol, mae’r adnoddau sydd ar gael yn llawer ehangach. Ond, rwyf yn deall amharodrwydd pobl efallai i ddefnyddio toiledau cyhoeddus y maen nhw’n teimlo nad oes ganddyn nhw hawl i'w defnyddio. Felly, yn rhan o gyflwyno'r Bil, byddem yn bwriadu cynnal ymgyrch hysbysebu codi ymwybyddiaeth gyhoeddus, fel bod pobl yn fwy ymwybodol o'r toiledau y cânt eu defnyddio yn yr ardal, ac efallai a allai leihau amharodrwydd rhai pobl i ddefnyddio'r toiledau sydd ar gael yn y gymuned yn ogystal.