Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac am ei ymyriad yn y mater pwysig hwn. Hoffwn hefyd gysylltu Plaid Cymru â'r teimladau a fynegwyd ganddo ynghylch rheolaeth y gyfraith ac annibyniaeth y farnwriaeth.
Yn sicr, mae canlyniadau pellgyrhaeddol i’r dyfarniad hwn, a byddant yn parhau, ac mae penderfyniad terfynol y Goruchaf Lys y tu hwnt i unrhyw amheuaeth. Mae'n amlwg y bydd sbarduno erthygl 50, sut bynnag y bydd hynny’n digwydd, yn arwain at newidiadau i gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru. Mae darpariaethau Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 wedi’u hymgorffori yng nghyfansoddiad Cymru, ac ni cheir ymyrryd â nhw na’u diwygio heb i’r wlad hon, a'i deddfwrfa ddemocrataidd, fynegi ei bod yn cydsynio. Byddwn yn ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol pe gallai ymhelaethu ymhellach ar union natur yr ymyriad arfaethedig hwn yn yr apêl i'r Goruchaf Lys, yn benodol ynghylch pa swyddogaeth ffurfiol y mae’n dymuno ei chael ar gyfer Llywodraeth Cymru neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn y broses o sbarduno erthygl 50. O ystyried ei ymyriad arfaethedig, ai ei farn ef yw, os caiff ei gadarnhau, y bydd dyfarniad yr Uchel Lys yn galw am ddeddfwriaeth sylfaenol yn Senedd y DU ar sbarduno erthygl 50, neu, fel yr awgrymwyd gan rai, y byddai penderfyniad y Senedd yn bodloni gofynion dyfarniad yr Uchel Lys?
Yn ail, a fyddai'n cytuno bod peryglon posibl wrth gynnal egwyddor sofraniaeth seneddol y DU uwchlaw pob ystyriaeth arall, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn? Er enghraifft, os caiff erthygl 50 ei sbarduno trwy ddeddfwriaeth sylfaenol yn Senedd y DU, yna bydd Llywodraeth y DU yn gallu disodli deddfwriaeth o'r fath ag is-ddeddfwriaeth a allai dresmasu ar faterion datganoledig, ond ni fydd yn gyfarwydd â chynigion cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad hwn neu Seneddau datganoledig eraill, ac ni fydd hynny’n ofynnol. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn pryderu y gellid cefnu ar yr egwyddor na fyddai Senedd y DU fel arfer yn deddfu ar faterion datganoledig heb ganiatâd y Cynulliad, wrth i Lywodraeth y DU guddio y tu ôl i egwyddor sofraniaeth seneddol ac y gallai ddadlau nad yw'r rhain yn amgylchiadau arferol?
Yn olaf, Lywydd, mae erthygl 9 o Ddeddf Hawliau 1689 yn sefydlu bod yn rhaid i Ddeddfau Seneddol gael eu derbyn yn gyfan gwbl gan y llysoedd. Byddai hyn yn ei gwneud yn amhosibl i Lywodraeth Cymru herio yn ôl-weithredol unrhyw ymyrryd ar ddatganoli o ganlyniad i ddeddfwriaeth seneddol y DU. Nid yw hynny, wrth gwrs, yn berthnasol i Filiau’r Cynulliad Cenedlaethol, fel y gwelwyd yn nhymor blaenorol y Cynulliad, pan heriwyd Bil gan Lywodraeth y DU yn y Goruchaf Lys. Pa lwybrau, felly, y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn eu hystyried yn gyfansoddiadol ac yn wleidyddol er mwyn cynnal yr egwyddor a elwir yn sofraniaeth seneddol, ond hefyd sofraniaeth pobl Cymru?