Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae hwn yn faes a ystyriwyd gennym, yn amlwg, yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, pan roeddech yn dioddef o annwyd trwm, felly mae'n dda eich gweld chi'n edrych yn well heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf yn ddiolchgar am y datganiad a roesoch heddiw. Yn amlwg, roedd gofal plant yn ystyriaeth bwysig yn yr etholiad diweddar. Roedd gan yr holl bleidiau wahanol gynigion a gafodd eu cynnwys yn y maniffestos, ac, yn amlwg, chi’r blaid lywodraethol yn awr sy’n gyfrifol am weithredu'r cynnig penodol a gyflwynodd y Blaid Lafur i’r etholwyr. Nodaf eich bod wedi dweud yn eich cyflwyniad yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, Weinidog, eich bod yn teimlo mai hon, yn ôl pob tebyg, yw un o'r heriau mwyaf—os nad yr her fwyaf—yn eich portffolio o ran ei chyflawni, a hynny am reswm da iawn, i fod yn deg. Bydd y goblygiadau ariannol, yn ogystal â logisteg cyflawni hyn ar draws Cymru gyfan, yn mynd â chryn dipyn o'ch amser ac, yn wir, cryn dipyn o'ch adnoddau, fel yr wyf yn credu eich bod wedi’i gydnabod, er tegwch i chi.
Hoffwn i ofyn nifer o gwestiynau i chi ynglŷn â'r datganiad yr ydych wedi’i wneud heddiw, gan ddechrau, yn amlwg, â’r ystyriaethau ariannol o ran cyflawni’r maes polisi hwn. Gwnaed nifer o sylwadau ynghylch y posibilrwydd, os bydd uchafswm yr unigolion—teuluoedd y dylwn ei ddweud—a allai elwa ar hyn, yn manteisio arno’n gyffredinol ledled Cymru, y gallai’r ystyriaeth ariannol wirioneddol fod yn fwy na £200 miliwn. Rwy'n credu, yn eich tystiolaeth, eich bod yn cydnabod bod rhywle rhwng £100 miliwn a £125 miliwn yn ffigur mwy realistig. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi rhywfaint o sicrwydd ynghylch y cynigion ar gyfer cyllidebau o ran yr ymrwymiad hwn. Oherwydd, pa bynnag ffordd yr ydych yn edrych arno, o’r incwm gwario, dyweder, sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, mae hynny'n swm sylweddol o arian i ddod o hyd iddo yn flynyddol. Byddai gennyf ddiddordeb—yn enwedig gan eich bod wedi cysylltu’r cyfnod sylfaen â hyn, sydd yn amlwg yn rhan o bortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg—i wybod sut y bydd yr adnoddau yn cael eu dyrannu i gyflawni'r ymrwymiad hwn. A yw'n benodol i'ch cyllideb chi, neu a fydd llinellau gwariant yn y ddau bortffolio i gyflawni hyn, a sut yn union y darperir ar gyfer y llinellau gwariant hynny, wrth symud ymlaen?
Hefyd, hoffwn gael eich sylwadau ar farn y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru am rinweddau'r polisi a'r manteision net, o gofio bod y Llywodraeth yn awyddus i roi’r polisi hwn ar waith—ac mae hynny’n ddealladwy, oherwydd, yn amlwg, yr oedd yn ymrwymiad yn y maniffesto—a’i bod yn mynd i neilltuo cryn dipyn o adnoddau ar ei gyfer. Mae'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru wedi nodi'n glir yr hyn yr oeddent yn credu eu bod yn fanteision bach iawn o ran cyfleoedd gwaith a manteision eraill am yr arian y byddech yn ei fuddsoddi. A ydych yn cydnabod y sylwadau y maent wedi'u gwneud, a sut y byddech yn gwrthbrofi terfyn posibl y manteision y maent yn eu gweld yn y polisi ac wrth gyflwyno'r fenter hon?
Hoffwn wybod hefyd sut y dewiswyd y cynghorau llwyddiannus ar gyfer yr ardaloedd peilot—chwech, yr wyf yn credu bod y datganiad hwn yn cyfeirio atynt. Saith, sori. Na, chwech, sori—chwech y mae’r datganiad yn cyfeirio atynt. Faint o awdurdodau mewn gwirionedd oedd wedi tendro neu fynegi diddordeb ac sydd wedi bod yn aflwyddiannus? Oherwydd eich bod yn cyfeirio at y ffaith bod awdurdodau eraill nad oeddent yn llwyddiannus o ran cael eu derbyn ar gyfer y cynllun peilot. Ac am ba mor hir yr ydych yn rhagweld y bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal? Rydych yn nodi y bydd yn dechrau ym mis Medi y flwyddyn nesaf. Rwy'n tybio ei fod yn gynllun peilot 12 mis, neu a yw'n hirach? Unwaith eto, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall am ba mor hir y bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal. Oherwydd, unwaith eto, yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, roeddech yn awgrymu y bydd yr ymrwymiad hwn wedi’i weithredu a’i gyflawni’n llawn erbyn etholiad nesaf y Cynulliad, sef, yn amlwg, fel y gwyddom oll, Mai 2021. Felly, bydd y math hwnnw o amseru, byddwn yn awgrymu, yn her wirioneddol i'r Gweinidog o ran sicrhau bod y cynllun peilot wedi’i wneud, ei gynnal a’i weithredu.
Hefyd, hoffwn wybod yn union pa waith y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ac yntau wedi’i wneud wrth asesu'r sefyllfa bresennol o ran y gallu i gyflawni hyn, oherwydd bod eich datganiad yn sôn am y gwaith yr ydych wedi'i wneud hyd yn hyn, ac yr wyf yn tybio eich bod, fel plaid, ac fel Llywodraeth, cyn gwneud yr ymrwymiad hwn, wedi gwneud rhywfaint o waith paratoi er mwyn i chi weld beth yw’r capasiti. Beth yw eich dealltwriaeth o'r gallu presennol sydd ar gael i gyflawni’r ymrwymiad hwn, a faint o allu ychwanegol y mae’r Llywodraeth yn credu bod angen iddi ei gynnwys yn y system i ddarparu’r 48 wythnos o 30 awr o ofal plant yma yng Nghymru ar gyfer teuluoedd sydd â phlant 3 i 4 oed? Felly, gyda’r cwestiynau hynny, rwyf yn edrych ymlaen at glywed yr atebion, yn enwedig ynghylch yr adnoddau a gallu'r sector gofal i gyflawni’r ymrwymiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud.