Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 8 Tachwedd 2016.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd am ei ddatganiad a chroesawu’r datganiad? Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, bod Plaid Cymru wedi ymrwymo i gynnig gofal plant llawn-amser i bawb. Ond, rwy’n derbyn bod hwn yn gam positif i’r cyfeiriad hwnnw ac yn un rydym ni’n amlwg yn ei gefnogi. Mae’n dda gweld y Llywodraeth yn dechrau ar y gwaith ar lawr gwlad, fel petai.
Un nodyn y byddwn i’n licio ei godi ynglŷn â chywair y datganiad, a dweud y gwir, yw ei fod yn awgrymu bod dynesiad a ffocws Llywodraeth Cymru yn un economaidd yn flaenaf. Rydych yn sôn yn y datganiad am straen gofal plant ar incwm teulu, angen rhyddhau rhieni i fynd yn ôl i’r gwaith, comisiynu ymchwil wedyn ar impact economaidd y sector gofal plant ac yn y blaen. Maen nhw i gyd, wrth gwrs, yn ystyriaethau dilys, ond mi fyddwn i’n gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau mai cymhelliant creiddiol y polisi yma yw sicrhau’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant ac i sicrhau’r dylanwad dysgu a datblygiad cynnar gorau posibl iddyn nhw. Oes, mae yna fanteision eraill ond dyna, does bosib, sydd yn gyrru'r polisi yma. Efallai nad yw hynny’n cael cyfiawnder wedi’i wneud ag ef yn y datganiad fel ag y mae.
Mae yna ddwy agwedd ganolog bwysig i lwyddiant y polisi yma yn fy marn i, sef ansawdd—ac nid wyf yn meddwl fy mod yn codi ar fy nhraed heb sôn am hynny pan rwy’n siarad â’r Ysgrifennydd y dyddiau yma—ond hefyd hygyrchedd i’r ddarpariaeth. Mi fydd, byddai rhywun yn tybio, y cynlluniau peilot yma yn gyfrwng, beth bynnag, i brofi hygyrchedd y ddarpariaeth, fel rydym wedi clywed, mewn gwahanol gyd-destunau—gwledig, trefol, ieithyddol ac yn y blaen.
Ond, o ran yr ansawdd, mae hynny efallai’n fwy anodd. Rwy’n cydnabod yr hyn ddywedodd yr Ysgrifennydd yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf bod yna lawer o feddwl a llawer o ddeall dal angen ei wneud ynglŷn â beth mae darpariaeth dda yn edrych fel a beth yw ansawdd mewn gwirionedd.
Yn amlwg, mi fydd y cynllun gweithlu, pan ddaw, yn gwneud cyfraniad pwysig. Ond, fe fyddwn i’n licio clywed, Ysgrifennydd, a ydych chi’n rhagweld y bydd y peilotau yma hefyd yn gallu cynnig rhyw fath o arweiniad i ni pan mae’n dod i ddeall yn well beth yw darpariaeth o ansawdd a sut, efallai, y gallwn ni fod yn creu mwy o hynny ac adeiladu ar y cryfderau sy’n cael eu hadnabod.
Mi ddylai unrhyw bolisi gofal plant, wrth gwrs, fel mae’r Ysgrifennydd wedi cydnabod yn ei ddatganiad, fod yn cyfrannu ac yn creu sail gadarn i nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n gyfle i gychwyn plant ar y daith yna i fod yn ddwyieithog. Rwy’n deall bod tua 86 y cant o’r rhai sy’n mynychu cylchoedd meithrin yn mynd ymlaen i ysgol Gymraeg ac nad yw’r mwyafrif o’r gweddill ddim yn gwneud oherwydd nad oes yna ddarpariaeth addysg Gymraeg yn yr ardal dan sylw. Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid inni fod yn rhagweithiol nawr. Mae’n rhaid inni symud o fod yn adweithiol ac ymateb i alw i fod yn llawer mwy rhagweithiol a sicrhau bod y twf yna’n digwydd mewn modd mwy deinamig.
Felly, mae angen creu'r galw hefyd, mewn sawl ffordd. Mi fyddwn i’n licio gwybod—. Maen nhw’n dweud, petai pob un a fydd â hawl i gymryd mantais o hyn pan fydd yn cael ei weithredu’n llawn yn gwneud hynny, mai rhyw 20,000 o blant rydym ni’n sôn amdanynt. Felly, mi fyddwn i’n licio clywed, nid o reidrwydd y niferoedd heddiw, ond pryd fydd y Llywodraeth yn dechrau amlinellu faint o’r 20,000 o blant yna maen nhw am weld yn mynd ymlaen i gymryd darpariaeth cyfrwng Cymraeg a faint o’r rheini wedyn y maen nhw am eu gweld yn mynd ymlaen i gael addysg Gymraeg.
Mae hynny, wrth gwrs, yn bwysig oherwydd mae wedyn yn mynd i bennu faint o weithlu ychwanegol sydd ei angen er mwyn darparu ar eu cyfer nhw ac yn y blaen. Heb atebion i hynny—ac nid wyf yn disgwyl atebion heddiw—ond yn sicr, heb fod hynny’n cael ei wyntyllu, sut allwn ni fod yn hyderus ei fod yn rhan cydlynus o ymdrech fwriadol gan y Llywodraeth i symud tuag at filiwn o siaradwyr?
Yn olaf, wrth gwrs, wrth ddatblygu darpariaeth newydd, mae’n rhaid inni gydnabod bod yna gonsérn am rywbeth yn datblygu a allai danseilio’r ddarpariaeth bresennol. Rwy’n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd yn ymwybodol fod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi am fynnu bod yn rhaid i bob darparwr gofal plant—pob cylch meithrin, pob ‘playgroup’, ac yn y blaen—gael cyfeirnod talu wrth ennill ei hunain. Heb gyfeirnod o’r fath, mae’n debyg, ni fydd rhieni sydd am ddefnyddio’r cylchoedd hynny yn cael talebau gofal plant, sy’n gyfystyr â £2,000 o ostyngiad y flwyddyn ar gostau gofal plant. Mae gan hynny oblygiadau pellgyrhaeddol, yn enwedig i lawer o’r darparwyr llai sydd gennym ni yma yng Nghymru. A gaf i ofyn, felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i gynorthwyo’r darparwyr yma yng ngoleuni’r bygythiad hynny, er nad yw wedi ei ddatganoli? Mae goblygiadau difrifol, byddwn yn tybio, i’r hyn rydym yn trio ei gyflawni fan hyn. Oherwydd mi fyddai yn resyn wrth drio creu darpariaeth newydd ar un llaw bod y sector sy’n sylfaen ar gyfer adeiladu y ddarpariaeth newydd yna yn mynd i gael ei thanseilio gan rywbeth arall.