7. 6. Datganiad: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 5:14, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, ac mae gennyf bedwar cwestiwn. Yn gyntaf, rwy’n cydnabod, pan mae'n dweud mai 30 awr o ddarpariaeth yr wythnos, 48 awr y flwyddyn fydd y cynnig mwyaf hael sydd ar gael yn y DU, ei fod yn gywir. Mae’r gwaith o gyflawni hyn i ddod, ond byddwn yn rhoi clod iddo ef a'i blaid, a Llywodraeth Cymru, am yr uchelgais a'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni yn y maes hwn. Soniodd am y llymder a osodwyd gan Lywodraeth y DU; a fyddai ef yn ei dro yn cydnabod bod y diffyg haelioni cymharol o ran y ddarpariaeth gofal plant hyd yma hefyd wedi bod yn rhywbeth sydd wedi dal o leiaf rhai teuluoedd yng Nghymru yn ôl ac wedi gwneud pethau'n fwy anodd iddynt?

Yn ail, ystyriwyd bod ansawdd y ddarpariaeth bresennol yn dda yn gyffredinol, gan gynnwys dwy awr a hanner y dydd, bum niwrnod yr wythnos mewn amgylchedd ysgol. Rwyf yn meddwl tybed, pan ddywed yn ei ddatganiad,

Bydd ein cynnig gofal plant newydd yn cynnwys ein darpariaeth cyfnod sylfaen lwyddiannus yn ystod y tymor, ynghyd â gofal plant ategol, a yw hynny'n golygu y bydd unrhyw ehangu'r ddarpariaeth mewn lleoliadau ysgol yn fath gwahanol o ofal plant wedi’i ychwanegu at y ddwy awr a hanner hynny? Roeddwn wedi gobeithio efallai, mewn rhai ardaloedd, y byddai’r ddwy awr a hanner o ddarpariaeth o ansawdd da yn aml mewn ysgolion yn cael eu hymestyn i chwe awr y dydd. A fydd hynny’n digwydd mewn o leiaf rhai o'r ardaloedd peilot, neu a ragwelir y byddai'n bwyslais llai addysgol ac efallai’n ddarpariaeth gofal plant cofleidiol rhatach yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol?

Yn drydydd, mae'n sôn am allu a phrinder gallu mewn rhai ardaloedd o Gymru. Beth yw barn Llywodraeth Cymru am ble y mae’r ardaloedd hynny o brinder? Gan siarad yn bersonol, mae’r ystod o ddewisiadau a’r gallu sydd ar gael wedi creu argraff arnaf. Pan mae'n sôn am y cynlluniau peilot, a chwech ohonynt o’r hydref y flwyddyn nesaf—ai ei asesiad o ddiffyg gallu sy’n cyfyngu ar ba mor gyflym ac eang y gall gyflwyno’r treialon hyn neu a yw’n gyfyngiad o ran y cyllid o fewn y gyllideb sydd ar gael iddo?

Yn olaf, a chan gyfeirio, mewn gwirionedd, at y siaradwr blaenorol, rwy’n credu bod y mater ynghylch ansawdd yn bwysig iawn yma. Yn sicr, fy argraff i hefyd, wrth ddarllen a gwrando ar y datganiad, oedd bod pwyslais cryf iawn ar elfennau economaidd manteision gofal plant a chymaint y bydd rhieni sy'n gweithio yn gwerthfawrogi’r cynnig hwn, fel y byddwn yn wir. Ond yn sicr roedd llai yn ei ddatganiad am effaith y ddarpariaeth gofal plant estynedig ar y plant, ac un o'r dadleuon a gyflwynodd rhai o blaid gofal plant a gefnogir gan y wladwriaeth yw bod ansawdd y ddarpariaeth, yn enwedig o ran plant o deuluoedd llai cefnog efallai, yn gallu bod yn rhywbeth sy'n gwella eu cyfleoedd mewn bywyd. Rwy’n credu, yn sgil y prosiectau peilot y mae'n eu cynnig, fod cyfle gwirioneddol i ganolbwyntio ar hynny, a phrofi hynny hefyd. Yn ogystal ag ystyried sut y mae rhieni yn teimlo am y ddarpariaeth, sut y mae cynghorau yn ymdopi â'r logisteg, beth yw'r cysylltiad â Llywodraeth Cymru, beth sy'n gweithio orau o safbwynt logisteg—a allai hefyd wneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer astudiaeth academaidd o’r rhaglen beilot, fel y gallwn weld mewn gwirionedd a yw argaeledd y rhaglenni peilot mewn rhai cynghorau, neu mewn ardaloedd rhai cynghorau, o gymharu ag eraill, yn arwain yn y pen draw at well canlyniadau ac, yn arbennig, efallai, sgoriau profion cynnar ar gyfer y plant sydd wedi elwa ar y cynlluniau peilot hynny? Diolch i chi, rwy’n ddiolchgar.