Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Hoffwn ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau. Rwy'n falch iawn ei fod wedi mwynhau'r digwyddiad yma heddiw. Cynhaliais y digwyddiad a chymerais yr amser fy hun i siarad â nifer o grwpiau a ddaeth ynghyd â gwybodaeth ddiddorol am Gymru Hanesyddol. Codwyd rhai pryderon. Roeddwn yn gallu sicrhau pobl yn eu cylch, a chredaf fod honno’n dasg i mi yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod—i sicrhau ein bod yn gwneud hyn i dyfu'r sector a’i wneud yn fwy cynaliadwy. Nid yw hyn yn fygythiad i unrhyw sefydliad neu gorff. Mae hwn yn gyfle. Bydd gweithio gyda'n gilydd o fudd enfawr i'r sefydliadau llai, ac o’r sefydliadau hynny yma heddiw, rydym yn ariannu llawer ohonynt, ac rwy’n meddwl y byddent hefyd yn cydnabod, er bod ein cymorth yn gwbl hanfodol, mai’r hyn sy'n bwysicach fyth yn y blynyddoedd i ddod yw eu bod nhw eu hunain yn dod o hyd i ffyrdd eraill o ddenu adnoddau hefyd.
Yn ddiweddar, es i a fy nghydweithiwr Lynne Neagle, i ymweld ag amgueddfa yn ei hetholaeth lle clywais y bu gostyngiad yn nifer y staff cyflogedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac er bod y swyddi hyn wedi’u llenwi gan wirfoddolwyr, mae'r sefyllfa bellach wedi codi lle maent dan bwysau aruthrol, pwysau ariannol, i gynnal y gwasanaeth sy'n hanfodol i'r gymuned honno. Mewn gwirionedd, dywedasant y gwrthwyneb i'r hyn yr wyf wedi’i glywed mewn rhai mannau, sef bod yn rhaid inni wneud yn siŵr bod gennym arweiniad cryf, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym sefydliadau cenedlaethol cryf, ond yn bennaf oll mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod modd denu adnoddau ychwanegol i wneud y sector cyfan yn gryfach. Mae'n anodd iawn i mi ddweud wrth amgueddfeydd bach cymunedol a llyfrgelloedd cymunedol, 'Ni allwn fforddio eich ariannu’, ac eto maent wedyn yn dweud wrthyf i, 'Ond rydych yn cynyddu'r adnoddau ar gyfer sefydliadau cenedlaethol'. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yn dod i'r amlwg yw diwylliant lle mae pawb gyda'i gilydd yn y gymdeithas yn cyfrannu mwy trwy fod yn fwy gweithgar yn y sector diwylliant, fel bod sefydliadau bach yn denu mwy o adnoddau a sefydliadau mawr yn gwneud yr un peth. Dyna’r weledigaeth, a byddwn yn annog unrhyw Aelod sy'n gwrthwynebu’r hyn yr ydym wedi'i amlinellu, a’n sefyllfa ni, i awgrymu gweledigaeth amgen. Oherwydd ni fydd y problemau sy’n wynebau’r sector yn diflannu drwy anwybyddu'r angen i newid yn unig.
O ran ymgysylltiad Cadw â chymunedau, y peth cyntaf a wnes mewn perthynas â Cadw pan gefais fy mhenodi i fy swydd flaenorol oedd ysgrifennu at bob grŵp cymunedol o fewn radiws penodol i safleoedd Cadw, a gofyn iddynt pa un a oedd unrhyw weithgarwch y byddent yn hoffi defnyddio’r safleoedd hynny ar eu cyfer. Darparwyd enwau'r ceidwaid ym mhob safle, ac, o ganlyniad i hynny, rwyf bellach yn ymwybodol o wyliau newydd sydd wedi digwydd ar safleoedd Cadw, a gweithgareddau cymunedol newydd. Hoffwn i weld mwy o'r gweithgarwch hwnnw ledled Cymru.
Ond mae Cadw yn gwasanaethu dwy swyddogaeth, ac rwy’n meddwl, weithiau, bod y ddwy swyddogaeth, cyn belled ag y mae’r bobl—y cwsmer, y boblogaeth—yn y cwestiwn, yn cael eu cyfuno. Y ddwy swyddogaeth, wrth gwrs, yw’r swyddogaeth statudol a'r swyddogaeth fasnachol. Ac, weithiau, gellir llyffetheirio’r swyddogaeth fasnachol, neu gellir llyffetheirio llwyddiant masnachol Cadw, yn rhinwedd bod yn y Llywodraeth. Ni all fod mor hyblyg â phosibl yn y ffordd y mae’n gweithredu weithiau.
Felly, nid ceisio gafael mewn pŵer ar fy rhan i yw hyn. Nid wyf am gymryd yr amgueddfa genedlaethol i mewn i’r Llywodraeth. Mae fy mhortffolio yn ddigon eang fel y mae. Ac, mewn gwirionedd, rwyf am ryddhau—os rhywbeth, rwy’n awyddus i roi grym i bobl, fel bod pobl yn gallu cofleidio eu hasedau yn lleol. Oherwydd rwy’n gwybod mai asedau hanesyddol yn aml yw’r hyn sy'n diffinio ein cymunedau yng Nghymru. Dyma sy’n gwneud pobl yn falch o’r lle y maent yn byw, ac rwyf am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu defnyddio'n well, a bod mwy o bobl yn ymweld â nhw.