Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Rydych yn cyfeirio ar y diwedd at CAIS ac, wrth gwrs, maent yn gwneud rhai prosiectau gwych, Change Step, yn arbennig. Maent hefyd yn rhedeg cymorth Listen In i deuluoedd. Mae'r cyllid ar gyfer hynny wedi dod i ben. Maent yn darparu cefnogaeth haen is o fewn Change Step, ond, unwaith eto, o ystyried eich cyfeiriad ar y diwedd at ddarparu cyn-filwyr a'u teuluoedd gyda'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, sut, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â CAIS i drafod sut y gellir darparu ar gyfer y bwlch hwnnw mewn cymorth ehangach ar gyfer teuluoedd?