Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i ymrwymiad i'r lluoedd arfog. Yn amlwg, mae datganoli'n creu heriau, ond hefyd gyfleoedd a byddai'n anghywir i Mark Isherwood beidio â chodi’r pethau da sy'n digwydd yng Nghymru nad ydynt yn digwydd yn Lloegr. Cododd y mater grant disgyblion. Dydw i ddim yn mynd i osgoi ymdrin â’r grant amddifadedd disgyblion yng Nghymru; mae'n ychwanegiad gwych at gyrhaeddiad addysgol ein disgyblion mwyaf agored i niwed a dylem barhau i ariannu hynny. Wrth gwrs, gwrandewais yn astud ar ei bryderon ynghylch yr agweddau ar blant lluoedd arfog yma yng Nghymru a'r cyfleoedd yr ydym yn eu cyflwyno yno. Mae Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru yn rhaglen a sefydlwyd yn 2014 gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyda chyllid o gronfa cymorth addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn. Rydym yn dysgu oddi wrth y rhaglen honno. Yn wir, yn Aberhonddu, yn etholaeth Kirsty Williams, mae'r fenter Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg wedi helpu teuluoedd Nepal, fel rhan o'r gatrawd Gyrca, i ymgartrefu yn yr ysgol a'r gymuned ehangach. Felly, mae gennym rywfaint o arfer da yma yng Nghymru.
O ran gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, rydym yn falch o'r gwaith yr ydym yn rhan ohono. Mae gwasanaeth y GIG i gyn-filwyr yn darparu therapydd cyn-filwyr penodedig ym mhob un o'r byrddau iechyd a dyma'r unig wasanaeth cenedlaethol ar gyfer cyn-filwyr o'r math hwn yn y DU. Methodd yr Aelod â sôn am hynny. Rydym yn darparu £585,000 y flwyddyn o arian i gefnogi Gig Cymru i Gyn-filwyr ac mae dros 1,670 o gyn-filwyr wedi eu hatgyfeirio at y gwasanaeth hwn hyd yn hyn. Rwy’n cydnabod hefyd y pwysau yn y system: nid wyf yn gwadu hynny ac mae mwy o waith i'w wneud, a dywedais hynny yn y datganiad. Ond byddai'n anghywir i ni beidio â dathlu'r gwaith da sy'n cael ei wneud yn ein cymunedau, yn cefnogi unigolion wrth inni symud ymlaen. Yn wir, mae'r berthynas gyda CAIS a'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn un yr wyf yn ei chroesawu ac y byddwn yn parhau i ymgysylltu â hi.
Cyfeiriodd yr Aelod ar sawl achlysur at y Lleng Brydeinig Frenhinol a’u barn nhw ar hyn. Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhan o fy ngrŵp arbenigol lluoedd arfog, ac rwy'n synnu nad yw rhai o'r pwyntiau y mae’r Aelod yn eu codi wedi eu codi yn uniongyrchol gyda mi gan y Lleng Brydeinig Frenhinol neu sefydliadau eraill yn hynny o beth. Roedd yr Aelod yn dweud eu bod wedi gwneud hynny, ond gallaf eich sicrhau yn y cyfarfod a gefais y tro diwethaf, nid oedd yr un o'r pwyntiau a godwyd yma gyda mi heddiw ar y rhestr a godwyd gyda mi.
Cyfarfûm â'r grŵp arbenigol ym mis Gorffennaf i benderfynu ar ein blaenoriaethau yn y dyfodol a sut, drwy weithio gyda'n gilydd, y gallwn ddarparu hyn. Rwy'n meddwl bod y grŵp arbenigol yn gyfle gwych i ni ddysgu, i ledaenu gwybodaeth ac i ddeall aelodaeth amlasiantaethol y grŵp hwn, lle y gallwn fod yn wybodus. Yn hytrach na'r dystiolaeth anecdotaidd y mae’r Aelodau'n ei chynhyrchu weithiau, mewn gwirionedd, mae gen i wir ddiddordeb mewn deall y ffeithiau a’r ffigurau o'r cyflwyniadau sy'n cael eu gwneud i mi gan y lluoedd arfog a'r asiantaethau cymorth o'u cwmpas.