Part of the debate – Senedd Cymru am 6:54 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad pwysig heddiw ac am ddangos ei pharch tuag at y lluoedd arfog a chyn-filwyr, ac am y ffordd y mae’n cofio'r bobl sydd wedi colli eu bywydau wrth wasanaethu, a hefyd y teuluoedd yn y ffordd honno, hefyd.
Cwpl o bwyntiau y byddaf yn ymateb iddynt: ar yr egwyddor FIFA, rwy'n gwybod bod yr Aelod yn gefnogwr brwd o Gymru. Rwyf wedi ei gweld hi â'm llygaid fy hun mewn top Cymru, ynghyd â llawer o bobl eraill yn y Cynulliad hwn, a hir y parhaed hynny. Ond rwy'n credu mai’r mater i mi yw llwyddiant mawr yn y DU o ran pŵer y rhyddid i lefaru, ac rwy’n meddwl os bydd pobl yn dymuno gwneud hyn, dylent gael yr hawl i wneud hynny. Ac yn sicr fydda i ddim yn condemnio unigolion os ydynt yn dymuno gwisgo pabi neu os nad ydynt yn gwisgo pabi. Mae parch yn dod o galon yr unigolyn, a boed hynny trwy barchu rhywun a choffáu Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio, boed hynny yn eu cartref eu hunain neu ennyd wrth y Senotaff, mater i’r unigolyn yw hynny ac rwy’n ofni, yn aml, ein bod yn rhy feirniadol o'n gilydd am y ffordd yr ydym yn dewis dangos parch.
Rwy'n rhannu barn yr Aelod o ran y ffordd agored y mae pobl yn beirniadu crefyddau eraill. Rwy'n gwybod am lawer o gymunedau Mwslimaidd fy hun sydd â llawer o barch tuag at y lluoedd arfog a'r ffordd y maent yn mynd o gwmpas hyn, ond mae pobl yn defnyddio hyn fel esgus ffug ar gyfer hiliaeth, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal hynny. Roedd gan yr Aelod rai safbwyntiau cryf iawn ar lawer o'r materion hyn, ac rwy'n ddiolchgar iddi am dynnu sylw'r Cynulliad i’r rhain heddiw, ond yn y pen draw, bydd pobl yn parchu ei gilydd yn y ffordd y maent yn teimlo sy’n addas, a hir y parhaed hynny.