Part of the debate – Senedd Cymru am 6:49 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Rwy'n meddwl bod y datganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet yn un cadarnhaol ac fel y byddaf yn dweud yfory yn ystod dadl y Ceidwadwyr, mae Plaid Cymru yn gefnogol i'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chyn-filwyr, ar yr amod eu bod yn cael eu mesur yn gywir a bod y canlyniadau yn dryloyw i bawb eu gweld. Ond mae problem gynyddol o gwmpas Sul y Cofio, ac mae fy nghwestiynau heddiw yn mynd i ganolbwyntio ar y materion hyn a sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb iddynt.
Rydym wedi gweld yr holl helynt dros FIFA yn gwrthod caniatáu i'r gwledydd cartref wisgo bandiau braich pabi ar gyfer gemau rhyngwladol. Does dim o hyn yn cael ei helpu gan y ffaith bod FIFA wedi dangos ei hun i fod yn llygredig i'r craidd yn y cyfnod diweddar. Ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu, er gwaethaf y ffaith bod y rheol hon yn bodoli, y dylai'r tîm nodi dathliadau mewn ffordd wahanol, o bosibl trwy gael munud o dawelwch, neu, fel yr ydym wedi ei wneud mewn gemau pêl-droed eraill—rydym wedi dal cardiau i fyny i gefnogi'r tîm—drwy ddal llun o babi, yn hytrach na chael gwneud pwynt o bosibl gan FIFA mewn perthynas â'n hymdrechion i gyrraedd Rwsia yn y twrnamaint pêl-droed? Rebel wyf i yn y bôn, ond rwy’n meddwl weithiau bod angen i ni yn amlwg feddwl am sut y mae ein cenedl yn gwneud yn yr amgylchiadau hyn, yn hytrach na chymryd rhan o bosibl yn y gêm bêl-droed wleidyddol hon y mae FIFA yn ddiamau yn dymuno i ni gymryd rhan ynddi.
Mae'n ymddangos na allwn ddod yn agos at y dyddiad hwn heb straeon ffug o ddadleuon gyda Mwslimiaid dychmygol neu leiafrifoedd eraill y troseddwyd yn eu herbyn, yr honnir iddynt atal pobl sy'n gwisgo pabi yn y stryd a mynnu eu bod yn eu tynnu. Mae diben hyn yn glir: mae’r stori wedi ei chynllunio fel rhyw fath o sylwebaeth ar sut y mae'r wlad yn cael ei chymryd drosodd, sut y mae gwerthoedd Prydain dan fygythiad. Dylai unrhyw un sy'n byw gyda Mwslimiaid yn gymdogion wybod nad yw hyn yn wir, ond a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad yw hyn yn fawr mwy na hiliaeth sy'n cael ei chaniatáu i lifo allan i'r arena gyhoeddus ar y sail ei fod rhywsut yn dderbyniol, ac nad yw'n gwneud dim heblaw lledaenu stereoteipiau negyddol, a hynny yn gwbl ddi-sail?
A fyddai hefyd yn cytuno â mi y bydd y rhan fwyaf o bobl yn edrych ar Ddydd y Cofio drwy ffenestr eu profiadau a’u gwerthoedd personol eu hunain? Ni ddylem ddweud wrth neb beth i'w wneud yn hyn o beth. Er enghraifft, mae llawer o bobl yn rhoi oherwydd eu bod yn cefnogi'r syniad o gyfrannu at ofal cyn-filwyr gan y Lleng Brydeinig Frenhinol ac elusennau eraill yn y sector. Rhoddais i fy hun fy nghodiad cyflog i elusen yn fy ardal, ym Mhort Talbot, Step Change, sy'n helpu i ddarparu gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl, oherwydd eu bod yn cydnabod, yn anffodus, bod amseroedd aros yn dal i fod yn broblem ar gyfer y rhai â phroblemau iechyd meddwl, a bod teuluoedd yn aml yn cael eu hanghofio pan fydd eu hanwyliaid yn gadael y fyddin. Mae llawer ohonom yn dewis peidio â gwisgo pabi coch ac yn gwisgo pabi gwyn, neu ddim pabi o gwbl. Ni ddylai unrhyw un farnu rhywun arall os byddwn yn penderfynu coffáu a meddwl am ein hanes yn ein ffyrdd unigol ein hunain. Rwy'n defnyddio, unwaith eto, y gyfatebiaeth pêl-droed. Dydw i ddim yn aml yn gwisgo top Cymru i gêm bêl-droed, ond nid yw hynny'n golygu nad wyf ddim yn ffan pêl-droed brwd, ac rwy'n sicr yn genedlaetholwr brwd. Rwy’n meddwl mai dyna sut y mae'n rhaid i ni weld y pethau hyn weithiau.
Ac a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn annerbyniol bod gennym bellach hinsawdd wleidyddol lle mae’r rhai sy'n gwneud rhywbeth mor fach â gwisgo pabi gwyn, neu ddim pabi o gwbl, yn cael eu difrïo ar y rhyngrwyd ac yna mewn cyfryngau sydd wedi colli pob rheswm ar yr hyn yr ydym yno i’w nodi—y colli bywyd sy’n dal yn syfrdanol—o blaid rhywbeth sy’n llawer mwy gwleidyddol? Oherwydd rwy’n credu, yn y pen draw, mae'n rhaid i ni ddeall, er ein bod yn coffáu'r rheini sydd wedi colli eu bywydau, dylem fod yn coffáu pawb sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i ryfel, dan ba bynnag amgylchiadau, ac ym mha bynnag ffordd y digwyddodd. Dylem hefyd fod yn cofio gwrthwynebwyr cydwybodol a gymerodd y safiad i beidio â chymryd rhan mewn rhyfel, ac sydd hefyd wedi eu beirniadu drwy hanes. Mewn gwirionedd, dylem ddeall pam eu bod wedi gwneud y penderfyniadau hynny a sut y daethant i wneud y penderfyniadau hynny, a pheidio â gadael i hynny fynd ar goll yn y ddadl o amgylch Dydd y Cadoediad a dyfodol sut y bydd rhyfeloedd yn cael eu cynnal efallai yn ein henw. Diolch.