Part of the debate – Senedd Cymru am 6:56 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ond mewn gwirionedd mae Bethan Jenkins eisoes wedi gofyn y cwestiwn yr oeddwn yn mynd i ofyn ynghylch mater FIFA, ac rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb i hynny. Ond, tra fy mod ar fy nhraed, hoffwn hefyd longyfarch Gwasanaethau Addurno D. J. Rees o Ferthyr, a enillodd y wobr aur am gefnogi cyflogadwyedd ein lluoedd arfog.