Part of the debate – Senedd Cymru am 6:57 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet ar ein rhan ni i gyd pan ddywedodd na ddylem fyth anghofio'r rheiny a gollodd eu bywydau yn wrol i amddiffyn y rhyddid sydd gennym heddiw. Ac nid yw hwn yn achlysur ar gyfer gwneud pwyntiau gwleidyddol, yn fy marn i, ar noswyl Dydd y Cofio, ac os ydym, o bryd i'w gilydd, yn adeiladol feirniadol o Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw hynny ond oherwydd ein bod ni’n ceisio ei helpu i wneud ei waith hyd yn oed yn well nag y mae'n ei wneud yn barod. Ac rydym yn gwybod fod ei galon yn y lle iawn.
Un o’r breintiau mawr yr wyf wedi eu cael yn yr amser byr yr wyf wedi bod yn y lle hwn oedd mynd ar ran y Cynulliad i’r digwyddiad coffáu ym Mametz Wood ychydig fisoedd yn ôl, a oedd yn achlysur emosiynol iawn. Hoffwn ganmol y Llywodraeth am yr amryfal fentrau y maent wedi'u gweithredu, ac sydd wedi’u rhestru yn y datganiad: y pecyn o gymorth a'r amryw bethau eraill, fel y llwybr lluoedd arfog i gyflogadwyedd a Chefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru yn benodol. Mae'n bwysig iawn ein bod yn helpu teuluoedd y lluoedd arfog a'r rhai sy'n gyn-filwyr, yn arbennig, i ailintegreiddio i gymdeithas sifil. Mae ganddynt yn aml anawsterau penodol iawn i ymdopi â nhw ac mae angen llawer o gymorth swyddogol arnynt. Felly, nid wyf yn bwriadu gwneud pwyntiau cecrus o feirniadaeth ynghylch i ba raddau y gellir gwella unrhyw un o'r pecynnau hyn ar yr achlysur hwn; rwy'n siŵr y bydd digon o gyfleoedd eraill i ni wneud hynny.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at y mater tai. Unwaith eto, mae 25 y cant o'r holl achosion unigol y mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn delio â nhw yn gysylltiedig â phroblemau tai, ac mae'n warth cenedlaethol, rwy’n meddwl, nid yn unig yng Nghymru ond yn y Deyrnas Unedig, fod 8,000 o gyn-filwyr yn ddigartref ar hyn o bryd ac na ddarperir yn briodol ar eu cyfer. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed manylion y llwybr atgyfeirio iechyd ar 10 Tachwedd. Rwy’n cymryd y bydd datganiad arall lle y gallwn edrych ar y manylion hynny, oherwydd un o'r problemau sydd gan filwyr yw bod cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch eu hawliau dan y polisïau dyrannu tai lleol yn aml iawn ac, efallai, bydd ei ddatganiad ar y llwybr yn taflu rhywfaint o oleuni ar hynny.
Dim ond un mater yr hoffwn ei godi, am nad yw wedi cael ei godi hyd yn hyn, ac mae’n ymwneud â chostau gofal cymdeithasol ar gyfer cyn-filwyr a anafwyd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o'r gwahaniaethu yn erbyn y rhai ag anafiadau cyn 2005, yn hytrach na'r rhai a anafwyd wedi hynny, o ran diystyru costau gofal cymdeithasol. Gwn fod y Llywodraeth wedi cymryd camau breision i wella'r sefyllfa drwy godi’r diystyriad o £10 i £25. Ond mae anghyfiawnder penodol, rwy’n meddwl, yn y ffaith bod y personél hyn, o’u cymharu â phensiynwyr sifil, dan anfantais, oherwydd gall pensiynwyr sifil fuddsoddi eu dyfarniadau iawndal mewn cronfa ymddiriedolaeth, sy'n cael ei diystyru yn llawn. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet fyfyrio rywfaint ar hynny i ni, ond, fel arall, dyna’r cyfan yr wyf yn cynnig ei ddweud y prynhawn yma.