Part of the debate – Senedd Cymru am 7:00 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Rwy'n ddiolchgar i’r Aelod am ei sylwadau, ac, wrth gwrs, rwy’n meddwl y gallwn ni ddod at ein gilydd ar lawer o'r materion hyn, fel y coffa, fel sydd gennym ger ein bron heddiw. O ran rhai o fanylion ei gwestiwn, mae'n iawn i ddweud y byddaf yn lansio'r llwybr tai ar 10 Tachwedd, a bydd mwy o fanylion yn dilyn. Rydym yn gorffen y gwaith o ddatblygu ymgynghoriad llwybr â'n partneriaid allweddol, yn bennaf o’r grŵp arbenigol, y panel sy’n deall yr hyn sydd eu hangen ar gyn-filwyr a theuluoedd, a byddaf yn gwneud datganiad neu ddatganiad ysgrifenedig i'r Siambr yn briodol.
Rhaid iddo gael ei dderbyn yn ganiataol, fodd bynnag, fy mod yn credu am lawer rhy hir bod y lluoedd arfog—y Llywodraeth, y lluoedd arfog. Unwaith y bydd personél y lluoedd arfog yn gadael y lluoedd, mae'n fy mhoeni i mewn gwirionedd, ein bod yn eu gosod ar ben taith o fethiant yn aml. Rwy’n meddwl, mewn gwirionedd, ar ôl i chi ymrestru â’r lluoedd arfog, dylai’r berthynas â’r lluoedd barhau am amser hir iawn ar ôl hynny, ar ôl y gwasanaeth. Oherwydd rydym ni’n gorfod camu i’r adwy; mae cymunedau yn camu i’r adwy wrth ddelio ag effeithiau trawma drwy ryfel neu drwy faterion eraill a brofir. Mae fy nheulu i gyd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ac, am y ddau etholiad cyn hwn, roedd fy mrawd yn gwasanaethu yn Irac—gadawodd yn yr wythnos olaf o baratoi ar gyfer yr etholiad—a oedd yn drawmatig iawn i’w deulu, ond i’r holl deulu. Yn ffodus, roedd yn ddigon lwcus i ddod yn ei ôl, ond mae'n cael effaith yn y tymor hirach, ac rwy’n meddwl y dylem gael perthynas tymor hirach â’r lluoedd arfog, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i’w drafod â Gweinidogion y DU.
O ran y mater o gostau gofal cymdeithasol, rwy’n meddwl fy mod yn gywir wrth ddweud—os nad ydwyf, bydd y Gweinidog yn fy nghywiro trwy lythyr, ond rwy’n deall, o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, y byddwn yn cyflwyno diystyriad llawn ar gyfer y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Felly, mae'n rhywbeth yr wyf yn gobeithio, unwaith eto, y bydd yr Aelod yn ei groesawu. Mae llawer o anghysondebau; yn wir, fel Aelod, mae gen i broblem gyda phensiwn gweddwon rhyfel. Pan fydd gweddw yn ail briodi, byddant yn colli eu pensiwn rhyfel. Rwy'n credu bod mater cydraddoldeb yma, ac rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth, yn y tymor hir, y dylai Llywodraeth y DU roi sylw iddo hefyd.
Rwy’n meddwl y bu heddiw yn gyfle defnyddiol iawn i fynegi, ar draws y Siambr, ein hymrwymiad i'r lluoedd arfog a’u teuluoedd yma yng Nghymru. Mae heriau yn y system ac mae'n rhaid i ni barhau i ymdrechu i’w gwella, ac rwy’n gobeithio y gallwn barhau i ymsefydlu gwasanaethau o ansawdd gwell i bobl sydd wedi peryglu eu hunain a'u teuluoedd er ein mwyn ni a llawer o bobl eraill yn y gorffennol, a hynny yn y ffordd amhleidiol yr ydym wedi trafod y prynhawn yma. Diolch.