1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 9 Tachwedd 2016.
5. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am broses Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgeisio am grantiau busnes? OAQ(5)0067(EI)
Gwnaf. Bydd angen i fusnesau sy’n ceisio cael gafael ar gymorth grant gwblhau’r cais priodol a darparu unrhyw ddogfennau ategol sydd eu hangen. Cynllun busnes a gwybodaeth ariannol berthnasol fydd y rhain fel arfer.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi gweld nifer o fusnesau proffil uchel, a llawer iawn o arian cyhoeddus ynghlwm wrthynt, yn methu, ac nid yn unig yma o dan eich goruchwyliaeth chi nac yn wir, o dan oruchwyliaeth eich rhagflaenydd—hi oedd yr un a wnaeth lawer o’r penderfyniadau hyn—ond mae’n mynd yn ôl i ddyddiau Ieuan Wyn Jones a £2 filiwn i ffermydd abwyd melys, na chawsom yr un geiniog ohono’n ôl. Rwy’n derbyn yn llwyr fod yn rhaid i ni fentro er mwyn helpu i adeiladu’r economi, ond a allwch chi roi sicrwydd i ni, os gwelwch yn dda, y byddwch yn gweithredu proses lem ar gyfer fetio a chyflawni diwydrwydd dyladwy ar geisiadau busnes? Pe baech yn edrych ar yr hyn y mae ffermwr yn gorfod ei lenwi am grant bychan, mewn llawer o achosion, mae’n llawer iawn mwy o wybodaeth na busnes sydd ond yn gorfod cyflwyno cynllun a strwythur amlinellol, mae’n ymddangos. Er lles arian cyhoeddus, ac i sicrhau bod yr arian yn y lle cywir ar gyfer y cwmnïau cywir, a’u bod yn cael eu cefnogi mewn gwirionedd, fel nad oes gennym batrwm i fyny ac i lawr o’r fath, rwy’n credu bod angen i ni fod yn fwy diwyd yn y ffordd y gwnawn hyn.
Wel, mae’n hanfodol fod diwydrwydd dyladwy yn cael ei ystyried yn llawn fel rhan o’r broses o benderfynu a ddylai busnes gael cymorth Llywodraeth Cymru neu’r trethdalwr, ac mae’r prosesau’n llym. Rwy’n edrych ar ffyrdd y gallwn gryfhau’r broses honno. Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod, fodd bynnag, o ran y gefnogaeth rydym wedi’i chynnig, mai 4.9 y cant yn unig o’r 1,110 o gwmnïau a gafodd gynnig cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf sydd wedi gorfod cael eu hadfer mewn gwirionedd. Felly, mae’r gyfran yn fach iawn mewn gwirionedd. Ond wrth gwrs, pryd bynnag y bydd cwmni’n methu, mae’n cael sylw yn y newyddion. Fel rwy’n dweud, rwy’n gwneud gwaith i edrych ar sut y gellir cryfhau diwydrwydd dyladwy, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn unol â hynny. O ran cyfraddau mentrau sy’n methu, unwaith eto, mae gennym stori dda i’w hadrodd yng Nghymru. Cyfran gyfartalog y busnesau sy’n cau yw 9.2 y cant, o’i gymharu â 9.6 y cant yn 2014. Wrth gwrs, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld diweithdra yng Nghymru yn cyrraedd y lefel isaf erioed, a chyflogaeth yng Nghymru yn cyrraedd y lefel uchaf erioed. Bydd rhai busnesau’n methu am resymau amrywiol. Fel rwy’n dweud, rydym yn ymdrin â channoedd o fusnesau bob blwyddyn. Y realiti economaidd yw y bydd rhai’n methu a rhai’n llwyddo, ac nid yw pob cynnig busnes yn mynd yn ôl y disgwyl. Yr hyn sy’n hanfodol, fel y mae’r Aelod wedi’i amlygu, yw ein bod yn cyflawni’r holl archwiliadau o’r busnes a’r bobl sy’n eu harwain yn drylwyr ac yn drwyadl, fel y gallwn warantu bod y trethdalwr yn cael gwerth llawn am arian a bod cyn lleied o risg â phosibl yn ynghlwm wrth eu buddsoddiad.
Mae llawer wedi cael ei ddweud am gymorth grant amheus drwy Lywodraeth Cymru—y cytundebau tir, megis Llys-faen, lle y collwyd £39 miliwn o’r pwrs cyhoeddus. A ydych yn cytuno y bydd buddsoddi mewn atal twyll difrifol yn y Cynulliad drwy’r sianeli sy’n bodoli yn debygol o greu elw i’r trethdalwr?
Wel, mater i Swyddfa Archwilio Cymru yw asesu unrhyw achosion y gallai Aelodau fod yn bryderus yn eu cylch. Mae’r enghreifftiau y mae’r Aelod wedi’u crybwyll yn faterion dadleuol, ac ni fuasem wedi dymuno unrhyw golledion i’r trethdalwr. Ond mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal ymchwiliad trylwyr o brosiectau y mae’n barnu eu bod er budd y cyhoedd, a buaswn yn disgwyl i’w gwaith barhau. Buaswn yn croesawu eu gwaith yn fawr iawn mewn perthynas ag unrhyw brosiect neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan fy ngoruchwyliaeth i.