Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Wel, mae yna gyfuniad diddorol o ddau fater ar wahân yno. O ran y gwasanaeth pediatrig, rydym yn gwybod bod y gwasanaeth pediatrig, mewn rhannau eraill o’r DU, yn cael ei ddarparu gan nyrsys sy’n arwain y gwasanaeth pediatrig. Yn wir, nododd adolygiad y coleg brenhinol yn 2015 y gallai fod yn fwy synhwyrol i symud at wasanaeth sy’n cael ei arwain gan nyrsys yn Llwynhelyg beth bynnag. Dywedodd yr adolygiad hwnnw wrthym yn glir iawn hefyd na fuasai’n synhwyrol i geisio adfer gwasanaeth triniaethau dydd pediatrig 24 awr.
Mae yna her o ran sicrhau bod yr holl wasanaethau gwahanol hyn yn cyd-fynd â’i gilydd. Mae gwneud rhywbeth ymarferol fel symud yr uned bediatrig, fel ei bod yn nes at yr uned achosion brys, yn rhan o’r hyn sydd eisoes wedi cael ei wneud. Ond rwy’n ailadrodd bod y cyngor a gawsom am y model gofal a ddarperir yng ngorllewin Cymru yn un sy’n meddu ar sylwedd gwirioneddol ac arbenigedd go iawn, lle mae pobl yn gyfrifol am reoli, arwain a darparu’r gwasanaethau hyn o amgylch y wlad, a byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth a’r cyngor.