Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n iawn, wrth gwrs, fod y cwestiynau hyn yn cael eu gofyn yma yn y Cynulliad, ac rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod cwestiynau’n cael eu codi a’u gofyn yn y Cynulliad. Ond rwyf ychydig yn bryderus am dôn y cwestiwn a gawsoch yn flaenorol, a beth fydd yr ymateb iddo yn Sir Benfro, lle rwy’n byw. Nid wyf am i’r neges o’r fan hon fod yn un sy’n peri ofn yn sydyn fod adran ddamweiniau ac achosion brys ysbyty Llwynhelyg mewn perygl yn awr, a dyna yw fy mhryder o’r cwestiwn blaenorol. Felly, yr hyn rwyf ei eisiau gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, yw neges glir sy’n rhoi sicrwydd nad yw hynny’n wir, a bod y ddau beth y dywedoch eu bod wedi’u cyfuno—gofal pediatrig a gwasanaethau damweiniau ac achosion brys—ar wahân ac nad yw un yn dibynnu ar y llall mewn gwirionedd.