<p>Gwasanaethau Pediatrig yn Sir Benfro</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:32, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn, Joyce Watson. Rwy’n cydnabod bod pryder gwirioneddol ynglŷn â dyfodol iechyd ym mron pob rhan o’r wlad. O ystyried y sylwadau am wasanaethau gofal iechyd yng ngorllewin Cymru ac eithafiaeth yr iaith, nid yw’n syndod fod pobl yn poeni.

Ailadroddaf eto: mae’r her o gael gwasanaeth pediatrig yn rhan o’r hyn sy’n ein harwain, a’i berthynas gyda’r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys hefyd. Nid oes unrhyw gynlluniau i newid y gwasanaeth damweiniau ac achosion brys. Rydym yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd, a chyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw gweithio gyda’i randdeiliaid, gwrando ar ei glinigwyr a’r cyhoedd, bodloni’r dyhead am wasanaeth, ond i fynd ati mewn gwirionedd i ateb yr angen i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw mewn modd gwirioneddol ddiogel sy’n darparu’r gofal o ansawdd uchel rwy’n ei ddisgwyl i bob dinesydd ledled Cymru.

Felly, rwy’n ailadrodd eto mewn perthynas â’r gwasanaeth pediatrig, ein bod yn gwrando ar y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Maent wedi cynnal adolygiad arall eto, ar ddiwedd mis Medi, er mwyn taflu goleuni pellach ar lle rydym. Nid wyf yn credu bod angen codi bwganod neu godi ofn ar bobl mewn perthynas â dyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Llwynhelyg nac yng ngorllewin Cymru yn gyffredinol.