<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:50, 9 Tachwedd 2016

Mae gennym ni ganolfan arbenigol fasgwlar yn y gogledd, a Bangor ydy’r ganolfan honno. Yn ôl yr holl ystadegau sydd o’n blaenau ni, o ran y cwestiwn ynglŷn â gwasanaethau arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, rydw i’n sylweddoli nad oes gennych chi ffigwr mewn golwg o faint o wasanaethau, ond, fel y dywedodd Bruce Forsyth unwaith, ‘Higher neu lower?’ Dyna’r cwbl yr oeddwn i’n gofyn amdano fo. O ran y mesurau arbennig, nid rhoi’r bwrdd mewn mesurau arbennig oedd y cam radical, ond datganiad bod angen rhoi’r camau radical mewn lle oedd rhoi’r datganiad yna ar y bwrdd.

Ond fe symudwn ni ymlaen. Mae Plaid Cymru yn eiddgar, fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod, i weld datblygu hyfforddiant meddygol ym Mangor. Mi oedd cyllid ar gyfer addysg feddygol yn rhan o’n cytundeb diweddar ni ar y gyllideb. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno, os ydy o ddifri am ddatblygu addysg feddygol yn y gogledd, nad yw tynnu gwasanaethau arbenigol o Fangor yn gwneud synnwyr? Rydym yn gweld bygythiadau; rydym wedi gweld bygythiadau o’r blaen—mamolaeth, er enghraifft. Rydym yn dal i aros am fuddsoddiad yn yr adran frys. Oni ddylai’r Llywodraeth fod yn datblygu gofal iechyd ym Mangor rŵan, fel y ganolfan iechyd i’r gogledd-orllewin—canoli, os liciwch chi, yn barod am gyflwyno’r hyfforddiant yno?