<p>Gofal Sylfaenol ac Eilaidd</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:05, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn godi’r pwynt a wnaeth Nick Ramsay oherwydd mae’n gwbl annerbyniol fod traean o’r holl aildderbyniadau i’r ysbyty yn ganlyniad i gamgymeriadau gyda meddyginiaeth. Rwyf am ymchwilio ychydig ymhellach i’r pwynt penodol am bobl y penderfynwyd eu bod yn barod i adael yr ysbyty ac a allai fod wedi cael presgripsiwn. Pam na allent gasglu’r presgripsiwn hwnnw gan eu fferyllydd cymunedol yn hytrach na gorfod aros iddo gael ei ddosbarthu gan yr ysbyty? Oherwydd byddai hynny wedyn yn eu galluogi i adael yr ysbyty yn gynt, gan eu gwneud yn well yn gynt, a rhyddhau’r gwely i rywun arall.