Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Mae’n rhan o’r gwaith rwy’n disgwyl ei weld yn cael ei wneud gan fy mod yn credu mai’r peth delfrydol fyddai i bobl allu cael y feddyginiaeth honno, lle bynnag y bo modd, wedi’i darparu gan neu gyda’u fferyllfa gymunedol, boed yn ymwneud â chasglu neu wasanaeth cludo i’r cartref. Mae mwyafrif helaeth y fferyllfeydd cymunedol yn darparu gwasanaeth o’r fath. Rwy’n credu y byddai’n helpu i weld pobl yn gadael yr ysbyty pan fyddant yn barod i gael eu rhyddhau. Byddai hefyd yn delio â pheth o’r oedi yng ngwasanaeth fferyllol yr ysbytai y gwyddom ei fod yn digwydd hefyd. Felly, dylai pobl sy’n rhaid iddynt gael eu gweld gan fferyllydd ysbyty gael eu meddyginiaeth yn gynt, a bydd hefyd yn caniatáu i bobl adael. Felly, mae’n bendant yn rhan o’r gwaith rwyf wedi gofyn amdano ac fel y dywedais, rwy’n edrych ymlaen, yn ystod yr oddeutu chwe mis nesaf, at adrodd yn ôl i’r Aelodau ar y cynnydd sy’n cael ei wneud.