<p>Gwasanaethau Meddygon Teulu y tu Allan i Oriau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 3:13, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Daeth etholwr 87 oed i gysylltiad â mi yn ddiweddar. Roedd angen apwyntiad y tu allan i oriau yn sgil problem gyda chathetr yn oriau mân y bore. Gofynnwyd am ymweliad cartref dros y ffôn am 11.00 y bore a threfnwyd ymweliad. Ni ddaeth meddyg yn y diwedd nes 8.00 y nos, naw awr yn ddiweddarach, ar ôl nifer o alwadau ffôn yn y cyfamser. Yna, cynghorodd y meddyg y dylid cael ambiwlans i’w gludo i’r ysbyty. Cyrhaeddodd honno. Mae fy etholwr yn dweud bod y staff a fu’n ei drin yn rhagorol drwyddi draw, ond roedd yn bryderus iawn am yr oedi a brofodd mewn perthynas â’r gwasanaeth y tu allan i oriau, a gofynnodd i mi dynnu eich sylw at y mater yn y Siambr. Tybed a wnewch chi edrych ar yr achos hwn—rwy’n fodlon rhoi’r manylion i chi—ac a wnewch chi ddweud wrthym pa gyngor ac arweiniad rydych yn ei roi i’r byrddau iechyd lleol i geisio gwneud yn siŵr fod cyn lleied ag y modd, fan lleiaf, o’r mathau hyn o oedi’n digwydd.