<p>Gwasanaethau Meddygon Teulu y tu Allan i Oriau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:14, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, byddwn yn falch pe gallech roi manylion y digwyddiad i mi, yn enwedig yr adeg o’r wythnos y digwyddodd—ar y penwythnos neu yn ystod yr wythnos. Mae cathetrau wedi blocio yn broblem eithaf cyffredin i wasanaeth y tu allan i oriau. Mae hefyd yn rhan o’r her ynglŷn â chael gwasanaeth nyrsys ardal yn ogystal, fel rhan o welliant y mae angen i ni ei weld, gan na ddylai cathetr wedi blocio arwain at orfod mynychu adran ddamweiniau ac achosion brys. Nid wyf yn credu bod hynny’n briodol naill ai ar gyfer y gwasanaeth iechyd, ac yn bwysicach na hynny, nid yw’n briodol ar gyfer y dinesydd unigol. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed yn uniongyrchol am yr enghraifft hon, am ei bod yn enghraifft dda o’r hyn y mae angen i ni weld llawer llai ohono, ac o ran cathetrau wedi blocio, eu bod yn cael eu trin yn effeithiol gan y gwasanaeth gofal sylfaenol, boed yn ystod oriau agor neu y tu allan i oriau.