– Senedd Cymru ar 9 Tachwedd 2016.
Mae’r ail gwestiwn brys wedi cael ei dderbyn gan y Llywydd, a galwaf ar Llyr Gruffydd i’w ofyn.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch adroddiad yr Ombwdsmon, a ganfu 'methiant systemig' mewn gofal claf canser yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan? EAQ(5)0076(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Mae’r bwrdd iechyd wedi derbyn yn llawn y methiannau a’r argymhellion a nodwyd yn yr achos unigol hwn. Rwy’n falch y bydd prif weithredwr y bwrdd iechyd yn ymddiheuro’n bersonol i’r claf dan sylw. Rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd roi camau cyflym ar waith mewn perthynas â’r argymhellion, a bydd swyddogion o Lywodraeth Cymru yn monitro cynnydd yn ofalus.
Diolch ichi am eich ymateb. Rwyf innau hefyd yn cydnabod y modd y mae’r bwrdd iechyd yn ymateb i’r hyn sydd wedi cael ei ddweud yn yr adroddiad, ond ysywaeth, wrth gwrs, mae’n teimlo fel pe bai’r adroddiadau yma’n ymddangos yn wythnosol y dyddiau hyn. Mae’n bwysig cydnabod mai achosion hanesyddol, wrth gwrs, yw nifer o’r achosion yma sydd yn dod i’r golwg, a bod y bwrdd yn trio datrys eu problemau, a hwythau, wrth gwrs, mewn mesurau arbennig. Ond nid oes arwydd, hyd y gwelaf i, fod rhai o’r problemau sylfaenol sy’n ymwneud â staffio—sydd wedi bod wrth wraidd rhai o’r achosion yma sydd wedi cael eu hamlygu—wedi cael eu datrys. Fe ddywedodd y prif weithredwr yn ei ymateb i’r adroddiad heddiw fod yr adran wrolegol yn dal i fod o dan bwysau difrifol. Mae’r ombwdsmon, wrth gwrs, yn dweud fod rhaid adolygu capasiti, ac felly fy nghwestiwn i yw: a wnewch chi dderbyn mai’r ffactor sylfaenol yn nifer o’r achosion rydym ni wedi’u gweld, gan gynnwys yr un diweddaraf yma, yw’r diffyg staff, a bod problemau staffio yn arwain at bwysau cynyddol ar unigolion a gwasanaethau, sydd yn ei dro, ysywaeth, yn ei gwneud hi’n fwy tebygol bod camgymeriadau yn digwydd? A gaf i ofyn felly beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i ddatrys y mater sylfaenol hwnnw?
Diolch i chi am y gyfres o bwyntiau yn y cwestiwn dilynol. Fel y soniais yn gynharach mewn ymateb i’ch cyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, pan soniodd am yr achos penodol hwn, mae yna heriau’n ymwneud â’r gofal a ddarparwyd a’r model gofal a ddarparwyd, ond hefyd, amlygodd yr achos hwn her real iawn ynglŷn â’r ffordd annerbyniol y cafodd y gŵyn ei hun ei thrin. Mae hynny’n rhan bendant o hyn hefyd. Rwy’n credu y gellid bod wedi cael gwared ar lawer o’r pryder pe bai’r bwrdd iechyd wedi ymdrin â’r gŵyn mewn ffordd fwy amserol, a phe na bai wedi penderfynu symud y gŵyn i ddiwedd y cyfnod o gael ffurf ar ofal mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu bod hynny’n dderbyniol, ac rwyf am ddweud yn wirioneddol glir na ddylai hynny ddigwydd yn y bwrdd iechyd, neu unrhyw fwrdd iechyd arall, yn y dyfodol. O ran y pwyntiau am gyfansoddiad gwasanaethau canser a’r pwysau, mae peth o hyn yn bwysau ledled y DU a pheth ohono’n bwysau mwy lleol hefyd. Rydym yn gwybod bod gwasanaethau wroleg o dan bwysau ar draws y DU, felly mae rhywbeth yma sy’n ymwneud â deall, unwaith eto, sut i gael y math cywir o wasanaeth. Felly, mae hynny’n ymwneud â buddsoddi cyfalaf ac mae hefyd yn ymwneud â model gofal yn ogystal.
Mae hyn yn wir yn mynd at wraidd y pwynt a wnewch am heriau’r gweithlu, oherwydd dywedais mewn ymateb i gwestiynau yn gynharach heddiw—ac ymhob cwestiwn rwy’n delio ag ef fwy neu lai mae yna gwestiwn bron bob amser ynglŷn â’r gweithlu—mae’n ymwneud â phwy sydd gennym, a ydynt ar y raddfa gywir, a oes gennym ddigon ohonynt, a sut rydym yn cael mwy o staff mewn marchnad sydd bron bob amser yn un wirioneddol gystadleuol, nid yn unig o fewn y DU, ond ymhellach i ffwrdd hefyd. Dyna pam y mae cael y modelau cywir o ofal yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Rydym yn ei gwneud yn llawer anos recriwtio i fodelau gofal nad ydynt yn cyflawni ac sy’n gadael pobl mewn sefyllfa lle y mae’r gwasanaeth yn annhebygol o gael ei ystyried yn gynaliadwy. Felly, mae yna ystod o wahanol bethau y mae angen i ni eu gwneud.
Fe welwch y camau gweithredu y bydd y Llywodraeth yn eu rhoi ar waith yn y ffordd rydym yn comisiynu lleoedd a’r ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu gweithlu i wella cynllunio’r gweithlu yn yr wythnosau a’r misoedd cyfredol. Mae hwnnw’n waith hirsefydlog; bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar hynny yn y dyfodol agos. Wedyn fe welwch hefyd y gwaith rydym yn mynd i’w wneud o ran y buddsoddiad y byddwn yn ei wneud eto mewn lleoedd addysg a hyfforddiant yma yng Nghymru, a’r ffordd rydym yn cynorthwyo ein myfyrwyr hefyd. Mae’n mynd gyda’r pwynt a wnaeth eich cyd-Aelod, Dai Lloyd, hefyd ynglŷn â deall yr hyn y mae angen i ni ei wneud i ddod â mwy o bobl i mewn, boed yn ofal sylfaenol neu’n ofal eilaidd, ond hefyd i gadw’r bobl sydd gennym. Mae amrywiaeth o wahanol bwyntiau yn hyn i gyd, ac ni fyddwn yn esgus bod yna un ateb syml i ddelio â dim o hyn. Yr her i’r Llywodraeth a’r byrddau iechyd—a’r ddeoniaeth yn ogystal—yw sut rydym yn mynd i sicrhau bod yr amgylchedd rydym yn ei greu yng Nghymru yn un lle y caiff pobl eu gwerthfawrogi a’u parchu, ac ar yr un pryd, lle y caiff ein disgwyliadau uchel eu bodloni, a’r hyn sydd angen i ni ei wneud i weld y system yn newid yn gadarnhaol yw ymdrin â’r heriau hyn i’r gweithlu a pharhau i ddarparu’r gofal o ansawdd uchel y byddai pobl, yn ddigon teg, yn ei ddisgwyl gan ein gwasanaeth iechyd gwladol.
Gadewch i mi ddechrau drwy ddiolch i Glan Clwyd a Wrecsam Maelor am y driniaeth ganser y maent wedi’i rhoi i aelodau o fy nheulu. Serch hynny, mae hyn yn amlygu pryderon difrifol. Mae gennyf—ni ddarllenaf bob un ohonynt—gwynion a gadarnhawyd gan yr ombwdsmon yn erbyn Glan Clwyd yma yn 2012, dau yn 2013, ac un ym mis Medi eleni, pan fu farw gŵr a oedd yn dioddef o fethiant arennol cronig, a theimlai’r ombwdsmon fod diffyg cyfrifoldeb llwyr ar ran y meddyg ymgynghorol a diffyg meddygon arennol ar y diwrnod dan sylw. Cefais un arall y mis hwn, pan gadarnhawyd cwyn gan ferch fod triniaeth ei thad ar ôl llawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd yn annigonol, gan arwain at ei farwolaeth o sepsis, ac yn awr hyn. Rydych yn dweud bod y bwrdd iechyd wedi ymddiheuro, ac rwy’n siŵr ei fod, ac rwy’n croesawu hynny, ond ym mhob achos, mae’r ombwdsmon wedi gwneud amryw o argymhellion i’r bwrdd iechyd yn nodi y dylid adolygu gweithdrefnau, trefniadau archwilio a hyfforddiant ac ym mhob achos, mae’r bwrdd iechyd prifysgol wedi derbyn ei argymhellion. Sut rydych chi’n bwriadu ysgogi’r newid diwylliannol yn y sefydliad fel bod pawb, pa un a yw pobl yn lanhawyr, yn staff cynnal a chadw, yn staff nyrsio, yn feddygon neu’n glinigwyr, yn teimlo’n llawn cymhelliant ac yn rhan o dîm gyda rheolwyr sy’n cyfyngu ar y mathau hyn o broblemau yn y dyfodol drwy ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y claf, er gwaethaf y pwysau arnynt ac ysbytai eraill ledled Cymru wrth gwrs?
Diolch i’r Aelod am ei gyfres o gwestiynau a phwyntiau. Mae rhywbeth yma am ganser—ac rwy’n falch o’i glywed yn cydnabod y driniaeth a gafodd aelodau o’i deulu, oherwydd, fel y dywedais yn gynharach wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, mewn gwirionedd mae gan Betsi Cadwaladr enw da am gyflymder ac ansawdd triniaethau yn y gwasanaethau canser. Ond nid yw hynny’n golygu y dylech anwybyddu’r meysydd hynny lle rydym yn cydnabod nad yw’r ansawdd wedi cael ei ddarparu. Fe wnaf y pwynt hwn: nid yw adroddiadau’r ombwdsmon yn cael eu hanwybyddu gan y byrddau iechyd na’r Llywodraeth. Felly, gall y bwrdd iechyd, fel y bydd yn gwybod, ddisgwyl gweld camau dilynol yn deillio o’r adroddiad hwn, i weld bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu.
Yr her bob amser yw sut i gael system adrodd a all gydnabod lle y bu methiannau, i roi rhywfaint o allu i bobl gael cymorth ac ar yr un pryd, sut rydym yn ceisio darparu amgylchedd dysgu a gwella yn ogystal, gan mai’r her—yn yr achos hwn, roedd pedwar meddyg ymgynghorol gwahanol yn ymwneud â gofalu am yr unigolyn hwn. Mae gwersi i’w dysgu i bob person a phob aelod o’r tîm ehangach. Yr her yw sut i sicrhau wedyn bod yr hyn a ddysgir yn cael ei weithredu ac nad ydym yn symud at system lle y mae’n system o roi bai, i bob pwrpas, oherwydd mewn gwirionedd dyna’r peth gwaethaf y gallem ei wneud, gan y byddai hynny naill ai’n arwain at bobl sydd eisiau cuddio’u camgymeriadau neu symud i ffwrdd oddi wrthynt, neu os ydym am gyflogi mwy o bobl i ddod yn rhan o wasanaeth a bod mwy o bobl yn beio’i gilydd, nid dyna’r ffocws cywir ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, mae’n rhaid rhoi sylw i wella yn ogystal ag atebolrwydd, ac mae’r cydbwysedd hwnnw, rwy’n meddwl, yn cael ei gyflawni, ond nid yw’n golygu y byddwn yn cael popeth yn berffaith gywir yn y Llywodraeth yn ein perthynas â byrddau iechyd, a’r byrddau iechyd eu hunain hefyd. A dyna pam rydym eisiau rhywfaint o aeddfedrwydd yn y drafodaeth am y dyfodol.
Rwy’n meddwl, fodd bynnag, yn ystod y tymor nesaf hwn, y dylai’r Aelodau ddisgwyl gweld gwelliant yn ansawdd a chanlyniadau’r gwasanaeth, a lle y ceir cwynion, fel gydag unrhyw wasanaeth ar raddfa o’r fath—a bydd, fe fydd yna adegau pan na fyddwn yn cael pethau’n iawn—. Hyd yn oed mewn system sy’n perfformio’n ardderchog, yr her yw beth rydym yn ei wneud am bethau fel ein bod yn lleihau’r risgiau hynny, a thriniaeth annerbyniol o’r fath, a beth rydym yn ei wneud i ddysgu gwersi o hynny, er mwyn deall yr hyn y mae angen i ni ei wella yn y dyfodol, a gwneud yn siŵr nad ydym yn ei weld yn digwydd yn y dyfodol hefyd.
Felly, rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaed, ac fel y dywedais, nid yw’r adroddiadau hyn yn cael eu hanwybyddu, maent yn cael eu cymryd yn gyfan gwbl o ddifrif, gan y Llywodraeth, ac yn wir, y byrddau iechyd eu hunain.
Gwn o brofiadau aelod o’r teulu, a gafodd ganser rai blynyddoedd yn ôl, ac a gafodd ei drin yn Ysbyty Glan Clwyd, fod y staff meddygol ar y rheng flaen yn gwneud eu gorau glas i ddarparu gofal o ansawdd uchel yn brydlon. Fodd bynnag, nid dyma’r tro cyntaf i’r ombwdsmon ganfod methiannau’n ymwneud â thriniaethau yn Ysbyty Glan Clwyd er gwaethaf ymdrechion amlwg y staff ar y rheng flaen. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud i sicrhau bod y staff meddygol yn Ysbyty Glan Clwyd yn cael yr adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddarparu gwasanaeth meddygol effeithiol ac effeithlon, a pha gamau uniongyrchol y mae’r Gweinidog yn mynd i’w rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r methiannau mewn gofal yn Ysbyty Glan Clwyd y mae’r ombwdsmon wedi’u hamlygu?
Diolch am y cwestiwn. Rwy’n credu bod y rhan fwyaf o ran gyntaf y cwestiwn wedi’i ateb, mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth, Llyr Gruffydd, a hefyd Mark Isherwood. Ac rwy’n falch o ddweud nad mater o ddiffyg ymdrech yw hyn, ond rhywbeth am ddiwylliant dysgu, lle y mae pobl yn mynd ati i herio o ddifrif, ac i herio’n adeiladol, y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu mewn timau amlddisgyblaethol.
O ran gweithredu’n uniongyrchol, eto, rwyf wedi egluro na fydd Llywodraeth Cymru yn anwybyddu’r adroddiad. Mewn perthynas â’r trafodaethau am atebolrwydd sy’n digwydd gyda’r prif weithredwr a’r cadeirydd, rwyf wedi egluro y bydd y mater yn cael sylw, ac y gallant ddisgwyl gweld gwaith dilynol gan swyddogion yn ogystal, i wneud yn siŵr fod yr hyn a ddysgwyd yn cael ei weithredu, a bod modd darparu tystiolaeth fod y gwersi hynny wedi’u dysgu, gan staff unigol ac ar draws y system gyfan hefyd. Oherwydd, fel rwy’n dweud, rwyf eisiau gweld dysgu a gwella’n digwydd o ganlyniad i bob un o’r adroddiadau hyn, yn hytrach na cheisio beio unigolyn penodol a pheidio ag edrych ar yr hyn y gallai ac y dylai’r system gyfan ei wneud yn wahanol.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.