6. 4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar Ymchwiliad y Pwyllgor i Ddyfodol Polisïau Gwledig ac Amaethyddol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 3:37, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Os ydym am sicrhau’r fargen orau posibl i’n cymunedau gwledig, amaethyddiaeth a’r amgylchedd ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, yna mae’n rhaid i ni fod yn feiddgar ac yn glir o ran yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth y DU. Rydym ni, yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cyrraedd consensws cynnar yn seiliedig ar gyngor arbenigol a barn ein rhanddeiliaid. Cytunodd y Pwyllgor a minnau i wneud y datganiad hwn er mwyn anfon neges glir at Lywodraeth y DU ynglŷn â’r hyn y mae Cymru ei eisiau ar ddechrau’r broses ymadael.

Rydym yn chwilio am ddau ymrwymiad gan Lywodraeth y DU. Mae’r cyntaf yn ymwneud â chyllid yn y dyfodol. Credwn fod yn rhaid i Gymru barhau i gael yr un lefel o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig ag y mae’n ei chael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd. Wedi’r cyfan, dyma oedd yr addewid a wnaed gan nifer o uwch-ymgyrchwyr ar yr ochr Gadael yn refferendwm yr UE. Er ein bod yn cydnabod nad oedd yr ymgyrch Gadael yn siarad ar ran Llywodraeth y DU, mae sawl un o’u huwch-ymgyrchwyr bellach yn gwneud hynny, yn enwedig yr Ysgrifennydd Tramor a’r Ysgrifennydd Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Mae’r ail ymrwymiad yn ymwneud â rhyddid polisi i Gymru. Dylai penderfyniadau ar bolisïau amaethyddol, yr amgylchedd a datblygu gwledig yn y dyfodol gael eu gwneud yng Nghymru. Wedi’r cyfan, mae’r cyfrifoldeb wedi’i ddatganoli. Pe bai’r achos yn cael ei wneud dros fframwaith polisi ledled y DU ar ryw lefel, yna dylid gwneud hyn ar sail cytundeb rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU. Rydym hefyd yn cefnogi trafodaeth ddwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dylai cytundeb ar unrhyw fframwaith polisi trosfwaol fod yn destun craffu gan y Seneddau a’r Cynulliadau datganoledig a dylai alw am eu caniatâd. Os yw Llywodraeth y DU yn sicrhau parhad i gyllid blaenorol yr UE i Gymru yn llawn, yna rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud ymrwymiad yn gyfnewid am hynny. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gytuno i ddiogelu cyllid, ar ôl iddo gael ei drosglwyddo i Gymru, ar gyfer cefnogi polisi amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig.

Ar ran y Pwyllgor, rwyf wedi ysgrifennu at Andrea Leadsom AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, i ofyn am ymrwymiad i gynnal y cyllid ar gyfer Cymru. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y mae’n bleser gennyf ei gweld yn y Siambr, i ofyn am sicrwydd y byddai cronfeydd o’r fath yn cael eu diogelu ac yn parhau i gael eu defnyddio i gynnal amaethyddiaeth, yr amgylchedd a’n cymunedau gwledig.

Ni allwn gynnig polisïau yn y dyfodol gyda hyder heb yr ymrwymiadau hyn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol cydnabod bod cyllid cyfredol yr UE ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig sawl gwaith yn fwy nag y byddai pe bai’n ddarostyngedig i fformiwla Barnett.

Mae angen parhau arian blaenorol yr UE i sicrhau cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol ein hardaloedd gwledig. Hebddo, rydym mewn perygl o golli’r cydlyniant diwylliannol, cymdeithasol ac ieithyddol unigryw sy’n nodweddu’r Gymru wledig.

Mae gwaith y pwyllgor ar ein hymchwiliad i amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn sgil gadael yr UE wedi ymwneud â mwy na chyllido yn y dyfodol. Rydym wedi cynnal trafodaethau gyda ffermwyr, coedwigwyr ac amgylcheddwyr. Ym mis Medi, fe ymwelsom â ffermydd a chynhyrchwyr bwyd yng Ngheredigion. Y mis diwethaf, aethom ati i gynnal gweithdy gyda rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru, yn ogystal â chynnull seminar o academyddion blaenllaw. Yn ddiweddarach y mis hwn byddwn yn ymweld â ffermydd yn Eryri.

Yn ychwanegol at y safbwynt ar gyllid yn y dyfodol, mae ein pwyllgor wedi ffurfio barn gychwynnol ar ddwy egwyddor lefel uchel arall. Y nod yw i’r ddwy gefnogi newid esblygol, yn hytrach na newid sydyn mewn polisi. Yn gyntaf, rydym yn cefnogi’r symud sy’n mynd rhagddo mewn perthynas â chymorth ariannol oddi wrth daliadau sy’n seiliedig ar erwau a chynhyrchiant hanesyddol, a thuag at amcanion amgylcheddol a rheoli tir y cytunwyd arnynt. Yn ail, rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi ffermydd mwy ymylol, gan gynnwys mewn ardaloedd mynyddig. Dylai helpu ffermwyr tlotach yn arbennig helpu hefyd i gynnal consensws cyhoeddus a gwleidyddol dros gymorth i ffermydd. Fodd bynnag, bydd datblygu egwyddorion polisi fel y rhain yn ddiystyr, oni bai ein bod yn sicrhau’r arian angenrheidiol yn y dyfodol.

Gobeithio y gall pob plaid yn y Cynulliad gefnogi ein gwaith a’r alwad a wnawn heddiw ar gyllid yn y dyfodol. Yn amodol ar hynny, gallwn i gyd wneud y gorau o’r cyfleoedd i gyflawni dros bobl ac amgylchedd Cymru. Diolch.