6. 4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar Ymchwiliad y Pwyllgor i Ddyfodol Polisïau Gwledig ac Amaethyddol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:41, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ganmol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am benderfynu edrych ar y polisïau amaethyddol a gwledig yng Nghymru yn y dyfodol fel un o’i ymchwiliadau cyntaf? Wrth gwrs, amaethyddiaeth yw asgwrn cefn yr economi wledig ac mae’n cyfrannu’n aruthrol i economi Cymru yn ei chyfanrwydd. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn archwilio’r polisïau hyn yn enwedig yn sgil y penderfyniad i adael yr UE. Fodd bynnag, er ei bod yn bwysig i’r Cynulliad graffu ar bolisïau amaethyddol a gwledig, hoffwn ddeall ychydig mwy am holl gwmpas yr ymchwiliad hwn, ac felly y canlyniadau realistig y gallwn eu disgwyl drwy gydol y broses hon. Felly, efallai y gall Cadeirydd y pwyllgor ddweud mwy wrthym am gwmpas yr ymchwiliad hwn yn ei ymateb yma y prynhawn yma.

Nawr, rwy’n siŵr y bydd y Cadeirydd yn cytuno â mi fod polisïau gwahanol yn galw am ymrwymo mwy o amser, o gofio bod rhai wedi gwreiddio’n ddyfnach nag eraill yn neddfwriaeth yr UE, neu’n ddibynnol arni hyd yn oed. Felly, a all ddweud wrthym a fydd unrhyw hyblygrwydd yn amserlennu’r pwyllgor i ychwanegu cyfarfodydd ychwanegol fel bod pob agwedd ar yr ymchwiliad yn cael ei drafod yn llawn?

Wrth gwrs, mae’n bwysig fod y pwyllgor yn gwneud popeth a all i annog rhanddeiliaid a chymunedau gwledig i fod yn rhan o unrhyw ymchwiliad ac rwy’n falch fod gweithdy ac ymweliad pwyllgor eisoes wedi’u cynnal, fel y crybwyllodd yn ei ddatganiad yn gynharach.

Deallaf fod yr ymgynghoriad ar yr ymchwiliad hwn, sydd eisoes wedi cael ei gyhoeddi, yn dod i ben ar 25 Tachwedd, felly a all Cadeirydd y pwyllgor gadarnhau sut y bydd y pwyllgor wedyn yn ymateb i’r atebion a ddaw i law? Yn ddealladwy, o gofio natur eang yr ymchwiliad hwn, sut y bydd yn ymdrin â phynciau polisi gwledig pwysig ar wahân y gallai eu cael o ganlyniad i’r ymchwiliad penodol hwn? Wrth gwrs, mae digon o waith craffu polisi i bara am amser hir i’r pwyllgor hwn o fewn y briff amaethyddol yn unig. Felly, mae’n bwysig fod rhanddeiliaid yn gwbl ymwybodol o bob cam o broses ymchwilio’r pwyllgor.

Bydd Aelodau sydd wedi bod yma ers peth amser yn cofio Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y trydydd Cynulliad, a oedd yn is-bwyllgor parhaol i ystyried materion sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig a pholisïau gwledig. A all y Cadeirydd ddweud wrthym beth oedd ei asesiad o’r pwyllgor hwnnw ac a yw’r pwyllgor presennol wedi cael unrhyw drafodaethau ynglŷn â’r posibilrwydd o atgyfodi is-bwyllgor tebyg i edrych ar ddatblygu gwledig a pholisïau gwledig ar sail barhaus yn hytrach nag ymchwiliad untro’n unig?

Er y gall fod yn fanteisiol cael fframwaith ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig, drwy gydsyniad, i’r DU gyfan, ac ar gyfer rheoliadau amgylcheddol yn ogystal, cytunaf yn llwyr â barn y pwyllgor fod yn rhaid i’r pwyllgor sicrhau bod y prif gyfrifoldeb polisi yn y meysydd hyn yn dychwelyd i Gymru o Frwsel. Rwy’n falch o nodi o’r datganiad heddiw y bydd y pwyllgor hefyd yn pwyso ar Lywodraethau ar bob lefel i sicrhau bod amaethyddiaeth, materion gwledig a’r amgylchedd yn parhau’n flaenoriaethau ariannol oherwydd yn amlwg, dyma’r meysydd a gaiff eu profi fwyaf wrth i ni adael yr UE.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch iawn o weld y bydd y polisi materion gwledig ac amaethyddol yn cael eu craffu ymhellach ar lefel pwyllgor Cynulliad. Rydym yn wynebu cyfnod pan fydd angen gwneud nifer o benderfyniadau pwysig mewn perthynas ag amaethyddiaeth Cymru a bydd effaith fawr ar y Gymru wledig. Rydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn croesawu ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i amaethyddiaeth a pholisïau gwledig, yn sgil gadael yr UE. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnwys yr holl randdeiliaid wrth drafod ffyrdd o wneud ein cymunedau gwledig yn fwy ffyniannus a chydnerth yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

Felly, a gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei ddatganiad heddiw? Rwy’n edrych ymlaen at weld cynnydd yr ymchwiliad hwn yn ystod yr wythnosau nesaf. Diolch.