Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Rwy’n ddiolchgar iawn i Huw Irranca-Davies am y cyfraniad hwnnw. Fe sonioch ar y dechrau am yr arian sy’n cael ei addo, a soniais fod rhai ymgyrchwyr Gadael wedi rhoi sicrwydd—a chrybwyllais ddau o’r rheini sydd bellach ar lefel uchel a pherthnasol iawn yn Llywodraeth y DU. Roeddwn yn cydnabod, yn ystod yr ymgyrch, mai ymgyrch oedd hi ac nad oeddwn yn siarad ar ran unrhyw Lywodraeth ar y mater. Ceisiais fod yn ofalus yn yr hyn a ddywedwn yn sgil hynny. Rwy’n meddwl efallai fod ymgyrchwyr Gadael eraill hefyd wedi ystyried hynny. Ond rwy’n cofio—ac rwy’n gweld Andrew R.T. Davies yma, ac rwy’n meddwl bod nifer o drafodaethau wedi bod gyda’r Prif Weinidog yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm hwnnw, lle y pwyswyd arno i roi sicrwydd ynglŷn â pharhad y cyllid.
Rwyf hefyd yn cofio achlysuron eraill. Ni wnaf enwi’r Aelod, ond roedd Aelod penodol ar ochr y Llywodraeth, pan oeddwn yn dadlau gerbron ffermwyr, yn awgrymu i’r ffermwyr y dylent bleidleisio dros Aros oherwydd, os na wnaent hynny, gallai fod yna risg i’w cyllid, ac na ddylent ragdybio y byddai amaethyddiaeth a datblygu gwledig ar frig rhestr blaenoriaethau Llywodraeth Cymru gan fod llawer o bwysau eraill ar ei hamser, ac efallai nad oedd cymaint o gefnogaeth yn y gymuned honno yn draddodiadol. Ond yr hyn rwyf am ei wneud heddiw, gyda’r datganiad hwn, yw casglu Aelodau o bob plaid at ei gilydd i gefnogi’r hyn rwy’n ei ystyried yn amcan cyffredin. Rwy’n credu ein bod mewn brwydr wleidyddol dros hyn. Rwy’n meddwl y gallwn gyflawni hyn. Ond rwy’n meddwl os gweithiwn gyda’n gilydd—ie, i sicrhau bod ymgyrchwyr Gadael yn y Llywodraeth yn cadw at eu gair mewn perthynas â sicrwydd penodol a roddwyd, ond hefyd i esbonio’r economi wledig unigryw sydd gennym yng Nghymru—ac fe soniais am yr elfen ieithyddol, y credaf nad yw’n debygol o fod yn rhywbeth y bydd llawer o wneuthurwyr polisi yn Llundain yn rhoi ystyriaeth fawr iddi neu hyd yn oed yn ymwybodol ohoni o reidrwydd pan fydd y materion hyn yn glanio ar eu desgiau. Pe baem yn mynd o lefel yr UE o gyllid i lefel fformiwla Barnett o gyllid, byddai’r effaith ar y cymunedau hynny o ran y diboblogi tebygol a newid i’r dirwedd a chwalu cymunedau diwylliannol, cymdeithasol ac ieithyddol y byddai hynny’n arwain ato yn ddifrifol tu hwnt mewn gwirionedd. Rwy’n teimlo hynny’n gryf, fel y gwn fod llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon, pa ochr bynnag i’r ddadl roeddent arni yn y refferendwm.
Soniodd yr Aelod hefyd am fod eisiau i ddeddfwriaeth gael ei gwneud yng Nghymru. Rwy’n cytuno â’i deimladau ond bydd ef, fel rwyf fi, yn ymwybodol o gymhlethdod pur y sylfaen ddeddfwriaethol. Rwyf wedi clywed awgrym fod rhywbeth tebyg i 5,000 o offerynnau cyfreithiol yn effeithio ar y PAC. Bydd gan y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru lawer o wahanol alwadau ar eu hamser, fel sydd ar amser ein pwyllgor, ac rwy’n meddwl mai’r her yw dod o hyd i beth yw’r elfennau hanfodol, ac rydym yn ceisio nodi’r egwyddorion allweddol rydym am iddynt fod yn gymwys yn benodol yng Nghymru. Rwy’n credu bod angen i ni, fel pwyllgor ac fel Cynulliad, ganolbwyntio ein hamser ar y meysydd lle y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol os ceisiwn newid y fframwaith deddfwriaethol neu ei addasu mewn unrhyw ffordd o’r hyn sydd wedi datblygu o fewn y PAC. Dylai Llywodraeth Cymru gael rheolaeth ar yr arian hwnnw, ond rwy’n meddwl y byddai datganiad ynghylch parhau’r lefel honno o gymorth ar gyfer y meysydd hyn yn ein cynorthwyo i lunio dadleuon i Weinidogion y DU ac eraill dros gadw’r arian hwnnw. Crybwyllodd yr Aelod hefyd, rwy’n meddwl, fod 40 y cant o’i etholaeth yn ffermydd mynydd. Pan fyddwn yn sôn am ffermydd mwy ymylol, ydy, mae hynny’n cynnwys yr ucheldir. Ond yn enwedig mewn ardaloedd fel ei un ef, ond hefyd ar draws llawer o dde-ddwyrain Cymru, nid oes rhaniad o reidrwydd rhwng ffermydd ar lawr gwlad a ffermydd mynydd. Mae yna nifer o ffermydd a fydd â rhan o’r fferm yn y dyffryn a rhan ymhellach i fyny. Cytunaf ag ef o ran yr hyn y mae’n ei ddweud am fioamrywiaeth a chynaladwyedd. Mae’n bwysig iawn ein bod i gyd yn canolbwyntio ar y rheini, ac mae yna adegau pan fo cyfaddawdau anodd o ran arian ac amcanion eraill, ond mae’n iawn i gadw’r ardaloedd hynny ar flaen ein meddyliau.