Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Rwy’n llongyfarch fy ffrind Mark Reckless ar y modd trawiadol y mae’n cadeirio’r pwyllgor a’r ffordd y mae wedi cyflwyno ei ddatganiad heddiw. Hefyd, hoffwn ganmol y pwyllgor am y gwaith caled y mae pob aelod ohono yn ei wneud. Nid wyf fel arfer yn cael fy nghysylltu’n agos iawn â’r gair ‘consensws’, ond rwyf wrth fy modd yn clywed bod y pwyllgor wedi cytuno ar ddull consensws cyffredinol, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n ymestyn y tu hwnt i gyfyngiadau’r pwyllgor ac i mewn i’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd. Mae polisi amaethyddol yng nghyd-destun gadael yr UE yn hanfodol bwysig. Mae wedi bod yn hynod o amlwg yng ngwariant yr UE byth ers i ni ymuno nôl yn 1973. Mae’n iawn, felly, y dylid rhoi’r pwys mwyaf iddo wrth ddatblygu polisi yng Nghymru, y rhoddir rhyddid iddi yn awr i ddatblygu polisi amaethyddol i weddu i’n hanghenion ein hunain, ar gyfer ein cenedl ein hunain yn benodol. Rwy’n falch o glywed yr hyn a ddywedodd Simon Thomas yn ei ymateb i’r datganiad yn gynharach, a’r ffordd gadarnhaol y mae ef yn edrych ar y cyfleoedd sydd bellach o’n blaenau. Wrth gwrs, mae’n hanfodol bwysig fod cyllido amaethyddiaeth yng Nghymru yn cael ei gadw fel y caiff ei drosglwyddo i lawr i ni o’r UE. Rwy’n sylweddoli, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, nad yw hyn yn rhywbeth sydd wedi’i naddu ar garreg yn oes oesoedd. Ond o leiaf ar gyfer y broses sylweddol o bontio, mae sefydlogrwydd yn dibynnu ar sicrhau bod pobl yn gwybod y gellir dibynnu ar yr hyn y maent wedi arfer ag ef. O gofio ein bod wedi ymuno â’r Farchnad Gyffredin, fel y’i gelwid bryd hynny, cyn dyfeisio fformiwla Barnett, mae’r rhwymedigaethau ar gyfer ariannu amaethyddiaeth yn mynd yn ôl ymhellach na’r fformiwla honno. Am y tro, beth bynnag, mae’n hanfodol fod yr hyn sy’n cael ei wario ar ffermio yng Nghymru yn cael ei ddiogelu. Rwyf wedi cefnogi barn y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru yn gadarn y dylai Llywodraeth y DU warantu pob ceiniog o’r arian y mae’r UE yn ei wario ar hyn o bryd yng Nghymru. Rwy’n meddwl mai canlyneb y ddadl honno yw bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ei hun yn awr gamu ymlaen a gwarantu, am gyfnod trosiannol sylweddol, y lefel o gyllid a fydd yn cael ei drosglwyddo i lawr iddi gan Lywodraeth y DU mewn perthynas ag amaethyddiaeth, os mai dyna fydd yn digwydd maes o law mewn gwirionedd.
Rwy’n falch o weld y pwyslais a roddwyd ar y gefnogaeth i ffermio ymylol, ac yn arbennig i’r ucheldir. Mae’n rhaid i ni gydnabod y realiti gwleidyddol rydym i gyd yn gweithredu ynddi—mai cyfran fach o gyfanswm y boblogaeth yw’r gymuned amaethyddol, ac rydym yn dibynnu ar gydsyniad poblogaethau trefol ynglŷn â faint o gymhorthdal y mae ardaloedd gwledig yn ei chael. Un o’r ffyrdd y gallwn wneud y gorau o botensial hynny yw trin ffermwyr fel ceidwaid cefn gwlad yn gymaint â thyfwyr bwyd. Er fy mod yn credu bod diogelwch y cyflenwad bwyd yn elfen bwysig yn ogystal, mae gennym ddiffyg sylweddol iawn mewn cynhyrchiant bwyd yn y wlad hon. Rydym yn mewnforio’n helaeth iawn, ac mae hynny, yng nghyd-destun y trafodaethau sydd ar y ffordd gyda’r UE ynglŷn â’n perthynas yn y dyfodol, yn arf y dylem ei ddefnyddio i’r eithaf. Yn ein dwylo ein hunain, mae gennym ddiffyg gwerth £10 biliwn y flwyddyn gyda’r UE ar fwyd a diod. Felly, mae ganddynt bob diddordeb mewn cynnal y mynediad presennol at y farchnad sengl. Hefyd ceir yr elfen bwysig, sydd wedi’i chrybwyll hyd yn hyn, sef cyfleoedd masnachu yn y dyfodol rhwng Prydain a’r UE, a Chymru a’r UE yn arbennig. Roedd Simon Thomas yn iawn i dynnu sylw at ddibyniaeth ffermio yng Nghymru ar allforion, ac mae hon yn her ar gyfer y dyfodol, yn ddi-os, yn enwedig i gynhyrchwyr cig oen. Rhaid i ni gydnabod nad yw’r byd yn aros yn ei unfan ac mae gwledydd fel Seland Newydd wedi wynebu heriau enfawr yn y gorffennol—aethant ati i ddiddymu eu holl gymorth amaethyddol dros nos—ac eto fe ffynnodd amaethyddiaeth yn Seland Newydd. Efallai fod gwersi y gallwn eu dysgu o brofiadau o’r fath yn y pwyllgor heyfd—nid bod hynny’n rhywbeth rwy’n ei argymell, ond serch hynny, mae’r ymateb i ergydion o’r fath yn cynnig cyfleoedd i ni ddysgu ynglŷn â sut y gallwn ymdopi â hwy. Mae hyrwyddo masnach yn elfen arall bwysig o hyn hefyd lle y mae gennym fwy o ryddid.
Y pwynt olaf a wnaf yw nad polisi amaethyddol yn unig sydd wedi’i ddatganoli i Gymru, ond polisi amgylcheddol hefyd, ac mae hyn yn rhoi cyfle i ni edrych ar y drefn reoleiddio bresennol a gweld a yw, mewn rhai achosion, yn anghymesur o ran y costau y mae’n eu gosod ar ffermwyr mewn perthynas â’r buddiannau cyhoeddus sydd i fod i ddeillio ohono mewn meysydd eraill. O ystyried natur anghysbell Brwsel ac anhryloywder y ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yno, a phwysigrwydd grwpiau lobïo wrth wneud polisi cyhoeddus, ac anatebolrwydd y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau pwysig, rwy’n credu bod hyn yn rhoi cyfle enfawr i ni yng Nghymru yn awr i ail-lunio—dros gyfnod sylweddol o amser, heb os, gan fod y gwaith yn enfawr, fel y mae fy nghyfaill wedi nodi—yn yr ystyr ei fod yn rhoi cyfle i ni edrych ar amaethyddiaeth yn ei chyfanrwydd, y gyfundrefn gostau yn ogystal â’r gyfundrefn fasnachu. Oherwydd, yn y pen draw, mae hyn oll yn effeithio ar hyfywedd ffermwyr a bywyd cefn gwlad nifer o rai eraill sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth.
Felly, rwy’n llongyfarch fy nghyfaill, fel cadeirydd y pwyllgor, unwaith eto, a’r Aelodau sy’n gwasanaethu oddi tano, ac edrychaf ymlaen at adroddiadau pellach yn y dyfodol.