7. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur 2016 Cymru’

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:54, 9 Tachwedd 2016

Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl yma. Rydw i am ganolbwyntio ar bwysigrwydd safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu SSSIs. Fel mae eraill wedi nodi yn barod, rŷm ni’n colli rhywogaethau ar raddfa ddychrynllyd ar hyn o bryd, ac, fel mae’r adroddiad sefyllfa byd natur yn nodi, un o achosion colli bioamrywiaeth ydy dirywiad cynefin. Mae angen lle ar fywyd gwyllt i ffynnu, ac mae’r safleoedd gwarchodedig sydd gennym ni yn cynnig hynny. Mae SSSIs yn drysor naturiol cenedlaethol. Maen nhw’n cynnwys rhai o’n cynefinoedd mwyaf trawiadol ni, o wlypdiroedd i dwyni tywod, o ddolydd blodau i goedwigoedd derw hynafol, ac nid yn unig maen nhw’n dda i’n bywyd gwyllt ni, ond mae yna werth economaidd mawr iddyn nhw hefyd. Mae pob punt sy’n cael ei gwario ar reolaeth dda o SSSIs, mae’n debyg, yn dod â buddsoddiad o £8 yn ôl, ac mae unrhyw un sydd wedi ymweld ag un o ardaloedd yr RSPB yn Ynys Môn, er enghraifft, yn gwybod pa mor boblogaidd ydyn nhw efo ymwelwyr, ac efo pobl leol—yn gyfle i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt yn eu cynefin.

Rydw i am dynnu sylw at ddwy enghraifft benodol yn fy etholaeth i sy’n dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn SSSIs i sicrhau eu bod nhw yn y cyflwr gorau ar gyfer ein bywyd gwyllt ni. Y cyntaf ydy’r newyddion da iawn bod aderyn y bwn yn nythu a bridio yng Nghymru eto am y tro cyntaf ers dros 30 o flynyddoedd, a hynny yng nghors Malltraeth ar Ynys Môn. Mae yna ambell aderyn wedi bod yng Nghymru, ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fridio ers tair degawd. Mi gafodd y warchodfa ei ffurfio nôl yng nghanol y 1990au, efo’r nod o ddenu yr aderyn yma yn ôl i Ynys Môn, ac ar ôl tipyn o aros a gweld amryw o rywogaethau eraill bregus yn ffynnu yn yr ardal, mi oedd darganfod bod aderyn y bwn wedi dewis nythu yno eleni yn deyrnged, rwy’n meddwl, i waith caled y tîm cadwraethol, a chefnogaeth y gwylwyr adar lleol hefyd.

Yr ail stori o lwyddiant ydy gwarchodfa natur ryfeddol Ynys Lawd, yn SSSI Glannau Ynys Gybi, sy’n cefnogi amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau, ac un o’r rhain ydy’r frân goesgoch. Mae’n ffasiynol iawn, mae’n ymddangos, i fod yn bencampwr dros rywogaeth, ac roeddwn i’n ‘chuffed’, mae’n rhaid i mi ddweud—maddeuwch i mi—i fod wedi cael fy newis yn bencampwr rhywogaeth i’r aderyn prin a rhyfeddol yma. Mae gan yr aderyn yma anghenion cynefin llawer mwy arbenigol na rhai o’i pherthnasau yn nheulu’r frân, a dyna pam fod arfordir creigiog gorllewinol Ynys Gybi yn ddelfrydol iddi hi. A drwy reolaeth o’r rhostir a chaeau pori arfordirol, mae niferoedd y brid Celtaidd eiconig yma wedi cael eu cynnal.

Yn y ddau achos yna rwyf wedi’u crybwyll, mae rheolaeth ofalus o’r safleoedd gwarchodedig wedi arwain at lwyddiannau cadwraethol, ond yn anffodus, wrth gwrs, nid yw’r darlun ddim yr un fath ar draws Cymru gyfan. Nid ydym ni’n gwybod, er enghraifft, beth ydy cyflwr rhai o’n safleoedd gorau ar gyfer bywyd gwyllt, hyd yn oed. Mi gafodd yr adolygiad diwethaf o statws ein safleoedd gwarchodedig ei wneud mewn adolygiad cyflym o sampl o safleoedd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru dros 10 mlynedd yn ôl, a doedd y canlyniadau ddim yn rhai calonogol. Mae’n hanfodol bwysig, rwy’n meddwl, ein bod ni’n buddsoddi yn y monitro a’r asesu o’r safleoedd yma er mwyn gwybod a ydyn nhw’n darparu ar gyfer y rhywogaethau y maen nhw wedi cael eu dynodi i’w gwarchod.

Rydw i’n gobeithio y bydd y Llywodraeth heddiw yn cydnabod bod wir angen adolygiad o’r modd mae’n safleoedd gorau ni yn perfformio er lles bywyd gwyllt, ac yn cydnabod pwysigrwydd rheoli safleoedd gwarchodedig yn iawn, a phwysigrwydd monitro hefyd er mwyn deall ac adennill natur Cymru. Os nad ydy’n safleoedd gorau ni ar gyfer bywyd gwyllt mewn cyflwr da, yna sut y gallwn ni obeithio diogelu dyfodol bioamrywiaeth yng Nghymru a gwella’r rhagolygon i fywyd gwyllt yng Nghymru?