Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Fel hyrwyddwr rhywogaeth y gylfinir yng Nghymru, ymwelais ag Ysbyty Ifan yn Eryri yr haf hwn gyda’r RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r ffermwr tenant, a chlywais, yn lle rhagnodi, fod angen i gynlluniau amaeth-amgylcheddol dalu ffermwyr yn ôl canlyniadau, a gwneud pethau gyda hwy. Clywais hefyd mai’r prif reswm pam fod magu’n methu yw ysglyfaethu nythod, gyda’r llwynog a’r frân yn brif droseddwyr, a dyna pam y mae llwybrau gylfinirod, brain a llwynogod yn cael eu monitro mewn ardal dreialu a rheoli, cyn cyflwyno dulliau o reoli ysglyfaethwyr o bosibl.
Mae angen sylw cadwraethol ar ucheldiroedd Cymru. Mae 55 y cant o’r rhywogaethau a astudiwyd yn yr adroddiad sefyllfa byd natur wedi bod yn dirywio ers amser hir ac mae helaethrwydd rhywogaethau yn gostwng. Mae cymaint â 15 y cant o rywogaethau’r ucheldir dan fygythiad o ddarfod. Mae cynefinoedd yr ucheldir yn arbennig o bwysig i ylfinirod sy’n nythu, sydd bellach yn brin ar lawr gwlad. Mae’r gylfinir yn hynod o bwysig fel rhywogaeth, yn ddiwylliannol ac yn ecolegol yng Nghymru. Rhwng 1993 a 2006, gwelwyd dirywiad cyflym o 81 y cant yn niferoedd gylfinirod yng Nghymru. Heb ymyrraeth, mae’r tueddiadau hyn yn debygol o barhau. Mae’r gylfinir yn awr wedi ei restru yng nghategori bron dan fygythiad yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ar lefel fyd-eang ac mae’n wynebu’r perygl o ddarfod ar lefel Ewropeaidd. Mae’r RSPB wedi cychwyn rhaglen fawr i adfer y gylfinir ar draws y DU, gydag ardaloedd treialu wedi’u sefydlu mewn chwe man, gan gynnwys Hiraethog, y Migneint ac Ysbyty Ifan, yr ardal yr ymwelais â hi yr haf hwn, gydag ymyrraeth rheoli’n dechrau yn ystod gaeaf 2015-16, ac arolygu yr haf diwethaf.
Yr hyn sy’n achosi’r dirywiad yw: colli cynefin addas, newidiadau yn amaethyddiaeth yr ucheldir mewn mannau, ac mae cynyddu stociau o anifeiliaid pori—ac i’r gwrthwyneb, gostyngiad mewn rhai eraill—wedi arwain at ostyngiad yn ansawdd cynefinoedd. Mae coedwigaeth yn yr ucheldir wedi arwain at golli cynefin yn uniongyrchol ac o ystyried bod y niferoedd yn isel bellach, mae ysglyfaethu bellach yn arwain at golledion mawr yn ogystal. Mae gorgorsydd yn un o’r mathau pwysicaf o gynefin a geir yng Nghymru, os nad yn fyd-eang. Yn ogystal â darparu cartrefi i blanhigion prin, infertebratau ac adar megis y gylfinir, maent yn darparu llawer o’n dŵr yfed, yn sail i’r economi wledig, ac yn cynnal dalfeydd carbon mawr. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd, mae gorgorsydd yng Nghymru ac ar draws y byd wedi dioddef dan law dynoliaeth. Yn y gorffennol, mae gweithgareddau megis draenio, llosgi a phlannu coedwigaeth wedi andwyo’r corsydd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig y daethom i ddeall pa mor werthfawr yw’r cynefin hwn pan na fydd dim wedi amharu arno.
Felly, a yw’r Gweinidog yn ymuno â mi i gydnabod bod angen i ni wneud mwy i ddiogelu’r cynefin pwysig hwn? Mae’n hanfodol i ddyfodol y gylfinir ein bod yn cael y polisi defnydd tir yn iawn ar gyfer y dyfodol. Wrth i ni adael yr UE, mae gennym gyfle i ddiffinio ein polisi rheoli tir yn gynaliadwy ein hunain. Rhaid i’r polisi hwn fynd i’r afael â dirywiad bioamrywiaeth, a dirywio amgylcheddol ehangach hefyd drwy sicrhau dŵr glân, storio dŵr i atal llifogydd, a storio carbon yn ein mawndiroedd. A yw’r Gweinidog yn cytuno felly fod rhaid i bolisi defnydd tir fynd i’r cyfeiriad hwn yn y dyfodol yng Nghymru?
Y gylfinir yw’r aderyn hirgoes Ewropeaidd mwyaf, a gellir ei adnabod ar unwaith ar aberoedd yn y gaeaf ac yn ei diroedd nythu yn yr haf wrth ei faint mawr, ei big hir sy’n crymu ar i lawr, ei rannau uchaf brown a’i goesau hir. Mae ei gân yn iasol ac yn hiraethus; i lawer o bobl, dyna alwad ardaloedd yr ucheldir gwyllt. Mae rhosydd gogledd Cymru bellach yn cynnal y boblogaeth fwyaf o ylfinirod nythu yng Nghymru, gydag adar yn dychwelyd i nythu yn y gwanwyn. Mae gylfinirod yn nythu ar gorsydd agored, gwastad neu ychydig yn donnog, ar rostir, ar dir ffermydd mynydd ac ar borfeydd gwlyb ar dir isel, ac yn bwydo’n bennaf ar amrywiaeth o infertebratau, gan gynnwys pryfed genwair, cynrhon lledr, chwilod, pryfed cop a lindys. Er eu bod yn dal i fod yn gymharol gyffredin yn yr ucheldir, mae parau magu, fel y nodwyd, bellach yn brin ar lawr gwlad. Roedd yr amcangyfrif diwethaf yn 2006 yn ystyried nad oedd ond ychydig dros 1,000 o barau o ylfinirod yn nythu yng Nghymru.
Felly, mae’r camau gweithredu sy’n ofynnol yn cynnwys cymorth a chyngor i berchnogion a rheolwyr tir lle y ceir gylfinirod neu ble y gellid disgwyl eu gweld, i weithredu rheolaeth ffafriol ar gyfer gylfinirod fel rhan o’u busnes fferm. Gallai hyn gynnwys adfer rheolaeth a gollwyd yn flaenorol. Cam gweithredu sy’n ofynnol hefyd yw monitro effeithiolrwydd cynllun amaeth-amgylcheddol Glastir yn drylwyr i lywio opsiynau cynllun a rheolaeth ehangach, ac yn olaf, pwysigrwydd treialu atebion rheoli cynhwysfawr i atal y gostyngiad yn niferoedd gylfinirod sy’n nythu yn yr ucheldir. Diolch.