<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:37, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae ffilm Ken Loach "I, Daniel Blake' yn cyseinio gyda phobl ym mhob man. Rwy'n siŵr y byddwch chi’n ymwybodol bod y ffilm yn archwilio caledi, yr achosion sydd wrth wraidd caledi a sut y mae'n ymddangos bod y system wedi ei threfnu i weithredu yn erbyn y bobl hynny sydd fwyaf angen cymorth. Mae rhan fawr o'r caledi a ddioddefir gan bobl anabl wedi ei hachosi gan wallau yn y ffordd y mae asesiadau’n cael eu cynnal. A wnaiff y Prif Weinidog dderbyn mai meddygon teulu a meddygon ddylai fod y bobl sy’n gwneud asesiadau o anabledd, ac na ddylai fod unrhyw rwystrau sy’n atal pobl anabl rhag cael y cymorth y maen nhw’n ei haeddu?