Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Ni allwn anghytuno â’r naill na'r llall o'r sylwadau hynny y mae hi wedi eu gwneud. Mae meddygon teulu yn gwbl gymwys i wneud asesiad ynghylch pa un a ddylai rhywun fod yn gymwys ar gyfer budd-dal penodol ai peidio. Yn yr un modd, wrth gwrs, rwy’n poeni am y ffaith bod y bobl hynny sy'n gorfod mynd trwy nifer o rwystrau er mwyn hawlio budd-dal yn cael eu hanghymell rhag gwneud hynny, ac mae hynny'n golygu mwy o galedi iddyn nhw. Ceir rhai efallai nad ydynt eisiau mynd drwy'r broses honno yn y lle cyntaf hyd yn oed, er gwaethaf y ffaith y gallai fod ganddyn nhw hawl i fudd-daliadau. Dyna lle’r ydym ni, yn anffodus, ar hyn o bryd fel cymdeithas, lle mae’r bobl hynny y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn sydd angen help gan y wladwriaeth yn cael eu hanghymell rhag cael y cymorth hwnnw.