Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Wel, dyma’r anhawster gyda'r model contractwyr annibynnol: mae meddygon teulu yn codi tâl am wasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r contract, a dyna pam, wrth gwrs, fel y mae’r Aelodau wedi fy nghlywed i’n dweud yn y Siambr hon o'r blaen, mae modelau eraill y mae angen i ni eu hystyried yn y dyfodol. Mae hi wedi codi pwynt pwysig ar ran ei hetholwr. Os gwnaiff hi ysgrifennu ataf i gyda mwy o fanylion am yr achos y mae hi wedi ei godi, byddaf, wrth gwrs, yn ysgrifennu yn ôl ati gydag ymateb personol.