<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:39, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n rhannu eich pryderon, Brif Weinidog, ac rwy'n falch eich bod chi’n cytuno â’m safbwynt i. Rhoddaf gyfle i chi ddangos faint yr ydych chi’n cytuno. Mae gennyf etholwr sy'n hawlio lwfans cymorth cyflogaeth ac yn dymuno hawlio grant anabledd er mwyn mynd i addysg. Mae ei meddyg teulu yn mynnu ei bod hi’n talu ffi o £95 am lenwi'r ffurflenni. Heb y ffurflenni hynny, ni fydd hi'n cael y grant ac, felly, ni fydd hi’n gallu astudio. Cadarnhawyd i mi y gallai fod yn rhaid i fyfyrwyr dalu i gael grantiau myfyrwyr anabl, ac y caiff meddygon teulu godi tâl am y gwaith hwn, ac mae canllawiau Cymdeithas Feddygol Prydain yn awgrymu y gallai hynny fod yn ffi o £90 am 20 munud o waith. Dyna maen nhw’n ei ddweud sy’n briodol, ac mae hynny'n fwy nag yr ydych chi’n ei ennill fel Prif Weinidog. A ydych chi'n meddwl ei bod yn briodol bod y GIG yr ydych chi wedi bod yn ei redeg ers 17 mlynedd yn rhoi rhwystrau ariannol sylweddol yn ffordd pobl anabl sy’n ceisio gwella eu bywydau? Ac a wnewch chi ymrwymo i gael gwared ar y ffioedd hyn cyn gynted â phosibl?