Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Yn dilyn y cwestiwn gan Gareth Bennett yn gynharach am y darpar Arlywydd Trump, a wnaiff y Prif Weinidog gydnabod pwysigrwydd hanfodol masnach gyda'r Unol Daleithiau i Gymru? Mae dau ddeg dau y cant o'n hallforion yn mynd i'r Unol Daleithiau. Mae hynny'n gyfanswm o bron i £3 biliwn y flwyddyn. Dyna’r un gyrchfan genedlaethol fwyaf i’n hallforion, o'i chymharu â'r Almaen, er enghraifft, lle’r ydym ni’n allforio gwerth oddeutu £1 biliwn—traean yw hynny mewn cymhariaeth. Felly, beth bynnag yr ydym ni’n ei feddwl am yr unigolyn sydd ar fin dod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae'n hanfodol bwysig i Lywodraeth Cymru gyd-dynnu â gweinyddiaeth yr Unol Daleithiau a’u hannog i fuddsoddi yng Nghymru a masnachu cymaint â phosibl â ni.