Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Wel, mae'n iawn i ddweud bod yr Unol Daleithiau yn farchnad bwysig i ni. Mae'r UE ddwywaith mor fawr fel marchnad ac yn yr un modd ag y mae e'n iawn bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n parhau i ddenu buddsoddiad o'r Unol Daleithiau ac allforio i'r Unol Daleithiau, mae’n rhaid i ni hefyd wneud yn hollol sicr ein bod ni'n gallu cael mynediad at farchnad sengl Ewrop ar yr un telerau â nawr. Pam y byddem ni eisiau peryglu ein lle yn y farchnad sengl fwyaf sydd gennym ni?