<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:47, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae wedi dweud y bydd yn rhoi America yn gyntaf ac y bydd unrhyw gytundeb gyda'r DU yn rhoi America yn gyntaf a dyna beth mae'n rhaid i ni warchod yn ei erbyn yn hynny o beth. Byddwn yn parhau, fel yr ydym yn y gorffennol, gyda’n swyddfeydd yn yr Unol Daleithiau, i weithio gyda chwmnïau’r Unol Daleithiau a cheisio denu buddsoddiad o'r Unol Daleithiau. Ni fydd hynny'n newid. Pam y byddai'n newid? Cefais fy synnu pan ddywedodd nad oes neb yn argymell tariffau oherwydd rwyf i wedi clywed pobl yn sôn am dariffau. Clywais David Davis yn sôn am dariffau. Rwyf i wedi clywed Liam Fox yn sôn am dariffau fel pe byddai tariffau’n ddibwys. Pam fyddem ni eisiau gwaethygu ein mynediad at ein marchnad sengl fwyaf? Mae hynny'n gwbl ddisynnwyr. Yn yr un modd, beth bynnag fo’r sefyllfa wleidyddol yn yr Unol Daleithiau, byddwn yn parhau i weithio gyda chwmnïau’r Unol Daleithiau, i ddenu buddsoddiad o'r Unol Daleithiau ac i hyrwyddo cynnyrch o Gymru ym marchnadoedd yr Unol Daleithiau. Ni fydd hynny'n newid.