Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 15 Tachwedd 2016.
A wnaiff y Prif Weinidog gydnabod efallai y gall UKIP gynorthwyo yn y broses hon? Mae’n siŵr y bydd wedi gweld y llun swynol a ymddangosodd yn ddiweddar iawn o arweinydd dros dro UKIP gyda darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, a beth bynnag y mae ef a minnau’n ei feddwl o’r ddau unigolyn hynny, serch hynny, i'r graddau y mae gennym ni gysylltiadau personol y gellir eu defnyddio er lles Cymru, yna dylid eu defnyddio. Yn y ddogfen, ‘Symud Cymru Ymlaen’, a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn gymharol ddiweddar, mae'n dweud:
‘Bydd ein llywodraeth ni yn un agored, yn croesawu syniadau newydd ac yn barod i weithio gydag eraill.'
A yw'r Prif Weinidog yn fodlon gweithio gydag UKIP er budd Cymru?